gynnal y cyfarfod nesaf; nid oedd fawr obaith am lwyddiant ar ei ymdrechion os ái ato vn llawn rhwysg a thwrw, oblegid yr oedd Anthropos yn un o'r dynion cynhyrfiol a sensitwe eu natur a ffiaidd ganddo pob ymddygiad anaddas, difoneddig. Yr oedd yn esthêt o ran ei ysbrvd a Henyddiaeth yn rhywbeth crefyddol iddo. Meddylier am Swinburne a beirdd a llenorion y rhan olaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a cheir gweld Anthropos yn eu mysg mewn cêp lipa, a het ddu fflat, a locsyn bychan (yr oedd ganddo locsyn twt vn ei ieuenctid, medd un o'i gyfoedion). Pc bai weii anturio dipyn vm more oes, neu pe bai'r gŵr a'r wraig caredig a'i mabwysiadodd yn ardal Corwen, ardal a an- farwolwyd ganddo yn ei lyfryn Y Pentre Gwyn,—pe baent hwy yn gwybod mwy am y byd mawr tu allan ac am wneuthuriad cywrain a bregus y bachgen a gafodd yr enw "R D. Rowland" ganddynt, hwyrach y gwelsem ef ym mysg gwyr llengar Fleet Street y blynyddoedd hynny. Y n lle hynny, prentiswyd ef yn deiliwr, ac fel cannoedd o Gymry athrylithgar ond heb gyfle, torrodd yr awydd i lenydda a barddoni ac ysgrifennu fel ploryn poenus allan o'i gyfansoddiad ysbrydol. A thrachefn, fel llu o Gymry ym mhob oes, daeth drosto'r awydd i fod yn bregethwr, ar ôl, yn gyntaf, dreulio cyfnod ar yr Herald Gymraeg ac fel golygydd y Genedl Gymreig a'r Goleuad. Ac yna, i Beulah, y capel bychan y soniais amdano, i dreulio ei oes yno fel bugail digymar ar aelodau a lynai wrth bob gair a ddeuai o'i enau oblegid eu bod yn dlysion ac yn ddeniadol ac yn fwyd llenyddol ac ysbrydol iddynt. At ei orchwyl fel pregethwr, ysgrifennndd vn helaerh i gylchgronau'r cyfnod gan gynnwys canoedd o ysgrifau i'r Herald Gymraeg ar bob math o- destunau. Treuliodd hefyd flynyddoedd lawer fel golygydd Trysorfa'r Plant. a phwy yn fwy addas nag ef ar gyfer plant, a'i gariad at natur a blodau. ac afonydd a distawrwydd. a phethau distadl? Ac yn unol a'i ysbryd gostyngedig a di-ymffrost, ni charai bregethu o bulpud; pregethai'n hvtrach o'r sêt fawr: ni hoffai chwaith bregethu oddi cartre. Ac er gwaethaf ei duedd i guddio ei hun ac vmatal rhag cyhoeddusrwydd, dyma'r dyn a ddewiswyd i fod yn llywydd Clwb a ddechreuodd gydag aelodaeth; o ddeg-ar-hugain vn 1009 ac a orffennodd ei yrfa gyda thros bedwar cant yn 1932. a'r aelodau y rhan fwyaf ohonynt ar hyd