Y TRAETHODYDD Richard Humphreys y Dyffryn Os bu gwr gwir ddiwylliedig a chraff ym mhulpud Cymru erioed, y diweddar Barchedig John Owen, Anfield, Lerpwl (Yr Wydd grug cyn hynny) oedd hwnnw. Barnai ef mai Richard Humphreys oedd y dyn mwyaf a fagodd Cyfarfod Misol Gor- llewin Meirionnydd. Ar ôl darllen Cofiant am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn, yn nghyda Chasgliad o'i Bregeth- au a'i Draethodau, gan y Parch. Griffith Williams, Talsarnau/' hawdd gan o leiaf un darllenydd gytuno â dedfryd John Owen. Bu'r gwr mawr a da o'r Dyffryn yn ffodus yn ei gofiannydd. Yr oedd Griffith Williams yn aelod o'r un Cyfarfod Misol ag yntau, adwaenai ef yn dda, a choleddai barch dilys a serch cynnes tuag ato. Ysgrifenna mewn arddull ddi-lol a naturiol, yn union (credwn) megis yr hoffai gwrthrych y cofiant iddo wneuthur. (Yn y dyfyniadau a roir yn yr ysgrif hon, diweddarwyd yr orgraff heb newid dim ar y cynnwys.) Ganed Richard Humphreys yn ffermdy Gwern-y-cynyddion, Dyffryn Ardudwy, Mehefin, 1790, yn fab i Humphrey Richard a'i briod Jennet, ac yn aelod o deulu a oedd yn yr ardal er cyn dyddiau OHver Cromwell teulu mwy cefnog na'r cyffredin, ond a feddai ar fwy o synnwyr a dylanwad da nag o bethau'r byd hwn. Pan oedd Richard 'yn bur ieuanc symudodd y teulu i'r Faeldref, ffermdy helaeth rhwng pentrefi'r Dyffryn a Llanbedr. Cafodd y bachgen addysg yn yr ysgolion cartrefol gorau a oedd i'w cael y pryd hwnnw," ac wedyn yn Amwythig, lle y dysgodd ddigon o Saesneg i allu darllen, ysgrifennu a phreg- ethu'r iaith honno'n rhwydd. Darilenodd lawer ar y diwinydd- ion Piwritanaidd John Owen a John Howe, ac ymhyfrydai mewn darllen Shakespeare, Milton, Addison a Steele, a'r Doctor Samuel Johnson. Rhagorai yn ei waith ar y fferm, gan gymryd mawr ddiddor- deb mewn trin y ddaear. Peth go amheuthun yw clywed preg- ethwr yn dywedyd yn un o'i bregethau fel y gwna ef "A phed ystyriech y fath bleser sydd i'w gael wrth lafurio'r ddaear, chwi