Eryr Eryri Benthycaf linell o eiddo Rhys Jones o'r Blaenau, i gyfleu fy syniad am wrthrych yr ysgrif hon—"Da wladwr duwiol ydoedd." Nid gwr coleg oedd. ac ni fagwyd ef ar aelwyd llawn moethau. Ni ddylai'r amgylchiadau hyn ei gau allan o anrhydedd oriel Y TRAETHODYDD. Yr Ysgol Sul oedd ei athrofa, a hen seintiau y cylch a fu ei athrawon. Magwyd ef yn syml, ond tyfodd yn ddigon mawr i greu cyfnod iddo'i hun. Datblygodd yn raddol wrth ymdroi ymhlith hen wladwyr gwerinol ei ardal, ac ar bonc y chwarel. Ei ddawn â'i wasanaeth i grefydd a chymdeithas sy'n cyfiawnhau cadw ei enw'n fyw i'r cenedlaethau a ddaw. Arloeswyr cerddorol anarferol o ddewr a theilwng o edmyg- edd, ac esiamplau gwerth eu hefelychu, a fu chwarelwyr Arfon mewn cyfnodau pell yn ô1. Y mae eu bywyd, eu hymdrechion dihafal, a'u crwydriadau drwy lwybrau anhygyrch, drwy dywyll- wch a stormydd, wedi sicrhau i ardaloedd Bethesda, Llanberis a Nantlle, y teitl anrhydeddus o chwarelwyr cerddgar Arfon." Ceir fod buddugoliaethau cerddorol cenedlaethol yr ardaloedd hyn wedi eu cerfio'n ddwfn ar lechres hanes y tri chwm. Nid oes raid eu croniclo yma. Y maent yn rhy hysbys i neb fedru eu hanwybyddu, ac yn ormod o wir i neb anturio ceisio eu gwadu. Plant y tywydd garw oedd y mwyafrif o'r hen arloeswyr hyn. onid y cwbl ohonynt. heb lawer o addysg; tlodi yn rheoli eu haelwydydd, cypyrddau heb lawer o foethau ar eu silffoedd, a'r dilladau gwaith yn llawn clvtiau. Clocsiau a'u cludai fore a hwyr i'r chwarel ac yn ôl. Nid moduron, bysiau, na beiciau fel yn y dyddiau hyn. Nid mewn moethau yr oedd eu cysuron ond mewn gwaith; nid pa faint o arian a ddeuai i'w pocedi, ond pa faint o wasanaeth a chymwynasau a fedrent gyflawni o dan am- gylchiadau anffafriol. Dyna oedd eu huchelgais. Gwelir mai eu nod pennaf oedd ceisio goleuo eu cylchoedd mewn byd ac eglwys, yn y chwarel ac mewn cymdeithas, gwareiddio'r gwyllt o'u hamgylch, a chodi safon bywyd ieuenctid nad oeddynt wedi dod o dan lewyrch y goleuni, nac i fro y weledigaeth cyn hynny.