cuddio'r bennod bwysig rhag haneswyr y blynyddoedd diwethaf. Amlyga'r ffeithiau ddiddordeb byw Cymry mewn tir estronol yn iaith, addysg, crefydd, ac iawnderau cenedlaethol Cymru. Profir gan y ffeithiau hyn nad ysbryd wedi ei greu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ydyw y deffroad dros Gymru a'i phethau gorau. Y mae'r cyweirnod a drawyd gan y Cymry hyn yn 1821 wedi chwyddo'n raddol, nes bod y gân erbyn hyn yn eiddo llawer. Brwydrasant yn ddyfal dros Brifysgol i Gymru, Barnwyr Cymreig, Capleiniaid Cymreig, yr Iaith Gymraeg, Addysg yng Nghymru, Llenyddiaeth Gymraeg, etc. Moesgrymwn iddynt. Dewrion di-gymar oeddynt. O. LLEW. OWAIN. Adolygiadau. SETLIAU HANESYDDOL Cenedlaetholdeb Cymru. Cyfres o ddarlithiau gan A. W. Wade*Evans, T. Jones Pìerce, Ceinwen Thomas, A. O. H. Jarman, D. Gwenallt Jones a Gwynfor Evans. Caerdydd, 1950. Tt. ii, 143. Traddodwyd y darlithiau sy'n sail i'r gyfrol hon yn Ysgol Haf Plaid Cymru yn 1946, rai ohonynt yn Gymraeg a'r lleill yn Saesneg. Crynhowyd y chwe darlith yng nghyd mewn dau argraffiad, un yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg (The Historical Basis of Welsh Nationalism), a chyfieithu yn ôl y galw, o dan olygiaeth D. Myrddin Lloyd. Ysgrifennodd Mr. Lloyd ragair byr i egluro pwrpas y gyfres. Prif waith y darlithwyr ydoedd olrhain a idadansoddi arwyddion dat. blygiad neu ddirywiad yr ymdeimlad cenedlaethol mewn nifer o gyfnodau. Trefnwyd y cyfnodau i gydredeg yn fras â hanes datblygiad y Genedl Gymreig o'r cyfnod boreaf hyd yr ugeinfed ganrif, a llwyddodd y darlithwyr i gadw oddi ar lwybrau ei gilydd ag eithrio ychydig rhwng y bedwaredd a'r bumèd ddarlith. Y mae'r gyfrol yn gyfraniad gwerthfawr tuag at ddirnad cwrs hanes Cymru, er na honnir ei bod yn ddihysbyddol mewn unrhyw gwr o'r hanes. Ni fedr neb sy'n ymddiddori yn hanes y genedl hon fforddio anwÿbyddu'r cipdremau hyn ar brif linellau'r datblygiad cenedlaethol. Ysgrifennodd y Parchedig A. W. Wade-Evans lawer ar hanes cynnar Cymru mewn llyfrau a chylchgronau, rai ohonynt yn ddieithr i'r darllenydd cyffredin. Y mae'n dda felly gael yn gryno gyda'i gilydd ei ddehongliad ef o rediad hanes Cymru o gyfnod y Rhufeiniaid i gyfnod y Normaniaid. Y mae ganddo lawer sy'n chwyldroadol newydd i'w ddweud am hanes cynnar y Cymry, ac am ddyfodiad y Saeson i'r ynys hon. Y gwaith a briodolir i