Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llythyrau William Williams o'r America at eiFrawd. (Parhad o Rifyn Ebrill.) II. YN ei lythyr dyddiedig Hydref 16, 1858, dywed William fod ysgrifennu llythyr yn dreth drom arno bellach. Derbyniodd un oddi wrth ei frawd Richard y noson cynt, a da oedd genyf ei gael, wedi bod yn gorwedd yn y posd am fisoedd amwni. Y mae y posd hwnw tia 9 milldir oddiyma. Y mae wedi symyd draw or man lIe yr oedd, ag un arall yn agos i ni yma yn awr. Yr wyf fi gartra yn gwarchod heddiw. Y mae Sasiwn yn Dodgeville heddiw ag yforu. Y mae 3 o bregethwyr yn perthyn i'n capal bach ni yn awr, a 4 o swyddogion eraill. Yr oedd llawar yn dweud wrthyf fi yn y Sasiwn dechra haf yn Wels Preri nad oeddwn i wedi altro bron ddim ers 12 mlynedd. Ond yr wyf fi yn gwybod peth arall. Y mae fy mhen ina yn britho peth. Gwelsoch fy ngwalld yn y llythyr arall mae yn debig. Waeth beth a fo, na ffen na chwmffon, na lliw na llun, yr ydani yn mund yn hen, a'n dyddiau yn darfod, ag yn dirwin i fyny. Y mae yr injan ddyrnu on cwmpas ni yn awr. Byddwn yn helpu ein gilidd fel cymdogion hefo hono. Rhaid cael tia 12 o ddynion iw chalyn, ag 8 o geffylau i'w thynu. Mi ddyrnith beth ryfeddod mewn diwrnod. Y mae gan bobol yma offerun i dori gwair ar yd yn lân, a cheffylau yn ei dynu mewn tir heb goed iw rhwysdro. Y mae offerun i dynu coed o'r gwraidd. Y mae yma ddigon o waith iddi pe bau yn dod yma i dynu hen ysdympia or gwraidd. Y maent yn tori y coed mewn llathan ir ddaear, fel y bydd yn hylaw i ddyn ar ei draed iw tori i lawr. Y mae yma lawer iawn o ysdympiau hud y ceuau yd yn y gymdog- aeth yma a llawar o fanau eraill hefyd. Gwelais hanes John Jones, Talysarn, yn gryno yn Y Drych ar Cyfäill,