Os bu crwydro yng ngwaed rhywun erioed yr oedd yng ngwaed fy hynafiaid i. A hithau dros oedran yr addewid nid oedd ddim gan fy nain gerdded dros y mynydd, heb un math o lwybr ond anelu at y ddwy goeden ddu a'r twyni drain, o Langadfan i Garno, siwrnai o ddeng milltir o leiaf, dal y trên yno i fynd i ffair y Drenewydd, a dychwelyd yr un ffordd y noson honno. Byddai'n cerdded i Fachynlleth, ddwy, filltir ar hugain i ffwrdd; cerdded yr un filltir ar bymtheg i'r Trallwm i ddal trên am Lundain i edrych am ei merch, neu i Nant-y-Moel i rodio at ei brawd. Wander- lust ? Yn ddilys ddiamau. A pha ryfedd ? Oni bu ei thad, William Jones, yn yr Amerig o leiaf bedair gwaith cyn marw'n wr cymharol ifanc, tair ar ddeg a deugain oed, yn 1855 ? Yno yr aeth ef a'i wraig ifanc ar ôl priodi. Bu ef trosodd unwaith beth bynnag cynt. Ar glawr ei Hyfforddwr, mewn pensel, gwelir y cofnod hwn, May 23, started from home to Liverpool, from there to New York, June 1st, 1833." Yr oedd ganddo amryw ffrindiau a chydnabod yno, a gohebai â hwy'n gyson. Efallai iddo ef a'i wraig led-fwriadu sefydlu yno, eithr fel arall y bu. Ond i droi at ddechrau'r hanes. Y mae hanner cyntaf ei ddyddiadur am 1844 ar goll. Ar waelod y tudalen cyntaf sydd ar gael gwelir, "Sadwrn, Mehefin 22. Priodas Mary Evans, Cwmderwen, Llanerfyl," neu fel y dywedodd y wlad, priododd Palws fach Cwmderwen a Bilo D'ôl-llin." Yn eglwys Llanerfyl y priodwyd hwy,. ac y mae'r cofnod ar gael, William Jones yn torri ei enw yn ei ysgrifen eglur, bendant, a Mary'n arwyddo â chroes. Dychwelasant i Gwmderwen i fwrw'r Sul. Buont yng Nghapel Beulah ddwywaith. Yno, ac yn y Bryngwyn, Llanllugan, lle cartrefai ef, y treuliasant y deuddydd nesaf gan fynd i'r Clwb yn rhywle­-i ymofyn arian yn sicr -yna ddydd Mercher, Mehefin 26, "Cychwyn tua'r America." Y noson gyntaf cyraeddasant Llannerchhhudol', Y Trallwm; drannoeth aethant hyd Groesoswallt a'r Waun; ddydd Gwener trwy Gaer ac i Lerpwl. Yn Lerpwl yr oeddynt trwy'r dydd Sadwrn hwnnw. Dau Hen Ddyddiadur.