Llenyddiaeth Manaw Nid ysgrifennwyd Hanes Llenyddiaeth Manaw hyd yn hyn, a hawdd ydyw darganfod y rhesymau am hynny. Bron na ellid dywedyd nad oes lenyddiaeth o gwbl yn iaith Ynys Manaw. Mae'r rhan fwyaf o'r ychydig lyfrau a gyhoeddwyd er pan ddaeth y cyntaf o'r wasg yn 1707 yn drosiadau o'r Saesneg. Ar wahân i'r rhain nid oes ond amiywiol ganeuon a baledi o'r cyfnod cyntaf, a'r cawalyn neu garolau diweddarach. ,Yr ail achos yw bod yr iaith yn awr bron ar farw; nid ydys wedi ei hastudio yn yr ysgolion erioed. Hyd yn .oed ym Manaw ei oes ei hun ni chyn- hyrchwyd dim gan yr awgrymiad a wnaeth Archibald Cregeen yn rhagair ei Eiriadur (1835). Yr oedd ef am gael gwr i ddysgu'r iaith yng Ngholeg y Brenin Wiliam ger Castletown, yr ysgol a seiliwyd i sicrhau hyfforddiant uwch i'r rhai a fynnent ddyfod yn weinidogion neu yn gyfreithwyr yn yr Ynys, neu fynd drosodd i'r prifysgolion ym Mhrydain. Ni chyhoeddwyd argraffiad o'r Beibl er 1819, nac o'r Llyfr Gweddi Gyffredin er 1842, nac unrhyw waith llenyddol newydd er 1796 efallai. Ni bu yr hyn a argraffwyd er yr amser hwnnw o ddiddordeb i neb ond i'r lleiafrif, i'r gweddill bychan sydd eto yn medru Manaweg neu sydd wedi ei dysgu fel ail iaith. Fel y dangosodd A. S. B. Davies yn y Bulletin yn ddiweddar, nid oes lawer mwy nag ugain o hen bobl sy'n siarad Manaweg yn fam- iaith yn awr. Pe bai llenyddiaeth Manaw'n gyfoethog iawn efallai y'i hastudid hi yn ein prifysgolion 0 leiaf, ond nid felly y mae hi arni. Nid ,yw hyd yn oed yr ieithegwr yn cael diddordeb mawr ynddi, canys nid â ei defnyddiau cynharaf yn ôl ymhellach na'r ail ganrif ar bymtheg. Mae Hen Fanaweg," chwedl yr Athro Henry Lewis yn y Concise Comparatwe Celtic Grammar, yn gyfoes a Chymraeg Diweddar! §2. Gwelir cychwyn y llenyddiaeth fechan hon yn nhrosiad y Llyfr Gweddi Gyffredin gan yr Esgob John Phillips (1605 — 1633)