iaeth a Sism yn yr Eglwys yn gas bethau yn ei olwg. Wele ddyfyniad a godwyd o ragymadrodd Drych 1716 sydd yn dangos beth oedd un o'i amcanion wrth ei sgrifennu. Ac yr wyf yn tybied nad yw y fath waith a hwn yn anfuddiol. Canys wrth ddarllen yn y Rhan Gyntaf, chwi a gewch weled modd y bu hi, gyda'n hynafiaid o amser bwygilydd, a'r rhyfeloedd y fu rhyng- ddynt ag amryw genhedloedd. Yma y cewch bortread amlwg o ffrwythau pechod a'r gwahanrhedol affaith rhwng buchedd dda a dihirwch buchedd, rhwng yr hwn a wasanaetho'r Arglwydd a'r hwn nis gwasanaetho Ef. Yma y cewch weled tra fu ein hynafiaid yn gwneuthur yn ôl ewyllys yr Arglwydd, na thyciai ymgyrch un gelyn yn eu herbyn; ond pan aethant i rodio yn ôl cynghorion a childynrwydd eu calon ddrygionus Y dieithr ag oedd yn eu mysc a ddringodd arnynt yn uchel, uchel, a hwythau a ddisgynasant yn isel isel.' Fe sylwir nad y llenor fel y cyfryw sydd amlycaf yn y para- graff eithr y diwygiwr moesol a chrefyddol: Hoff iawn ganddo oedd cloi ei baragraffau â darn o Sgrythur neu â dihareb addas i'w ddiben. Yn y I7eg ganrif, ysgrifennwyd degau o lyfrau hanes ym Mhrydain. Un ohonynt oedd Drych y Prif Oesoedd. Ei arben- igrwydd a'i ogoniant ef ydyw i Theophilus Evans ei sgrifennu yn Gymraeg, a hwnnw yn Gymraeg cartrefol a hudolus. Barnwn i'r llyfr hanes a fwriadai ef ar y cyntaf, wrth iddo fynd ati i gasglu ei ddefnyddiau ynghyd a'u trefnu, fynd yn arwrgerdd ei genedl o dan ei ddwylo. Daw ei sêl danbaid a'i falchder cenedl- aethol i'r golwg bron ar bob tudalen. Sylwer ar y darn a ganlyn o'i ddehongliad ar ddyddiau'r wythnos lIe y mae'n ddyledus i Mona Antiqua" Rowlands: Y fath yw llygredigaeth natur dyn rhyfygus. Ac yno fel y greddfai yr opiniwn cyfeiliornus hwn yn ddyfnach etto ym meddyliau y werin bobl, galwyd y saith planed ac hefyd ddyddiau'r wythnos ar enwau y rhai enwoccaf o'r duwiau, megis Dydd Sul, Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher, Dydd Iau, Dydd Gwener, Dydd Sadwrn. Ac yma, pe dywedwn mai Cymru oedd y duwiau hyn, y rhai oedd Ewrop ac Asia yn eu haddoli yn amser yr anwybod- aeth gynt, mi wn eusys y bydd rhai yn barod i chwerthin yn