Drych y Prif Oesoedd.. Ni bu llyfr Cymraeg erioed yn fwy poblogaidd na Drych y Prif Oesoedd Theophilus Evans, a dengys y cylchrediad eang a gafodd, a'r mynych argraffu fu arno, ei fod yn ffefryn ymhlith pob dosbarth o ddarllenwyr. Yr oedd Theophilus Evans yn hanfod o deulu bonheddig. Mab ydoedd i Charles Evans, ac fe'i ganed yn amaethdy Peny- wenallt, rhyw ddwy filltir o Gastellnewydd Emlyn, ar ffiniau Sir Aberteifi. Yr oedd ei dadcu, Evan Grinith Evans, yn Capten ym myddin Siarl I yn y Rhyfel Cartrefol, ac wedi dienyddio Siarl, fe ddaliwyd y Capten gan swyddogion Cromwel a'i daflu i garchar yn Aberteifi, oblegid y rhan a gymerth yn rhengau'r Brenin. Bernir, er nad oes sicrwydd, i Theophilus Evans gael ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin. Yn 1717 urddwyd ef yn offeiriad Defynnog, Sir Frycheiniog. Ficer y plwyf y pryd hwnnw oedd Moses Williams, gwr a ymhyfrydai yn hanes a llen ei wlad, a hwyrach i'r gyfathrach agos hon â'r Ficer llengar ennyn chwaeth y ciwrad at lenydda. Eithr nid fel gwr eglwysig y mae Theophilus Evans yn enwog ond fel hanesydd a llenor. Yr oedd yr ysfa i lenydda yn ei esgyrn pan oedd yn bur ifanc. Ymddangosodd ei brif lyfr, Drych y Prif Oesoedd, yn 1716, cyn ei fod yn dair ar hugain oed, ac yr oedd eisoes wedi cyhoeddi llyfryn Cydwybod y Cyfaill. Gorau, yn y flwyddyn flaenorol. Bu ei ddyrchafiad yn yr Eglwys yn gyson a rhwydd, a phan oedd yn Ficer Llanwrtyd yr oedd Williams Pantycelyn yn ddiacon o dano. Nid yw'n debyg iddynt allu cydweithio'n dda oblegid perthynas yr emynydd enwog â'r Methodistiaid, pobl a ffieiddiai Theophilus Evans â holl angerdd ei enaid. Yr oedd yr amseroedd hynny yn amseroedd enbyd, a therfysg a chynllwyn, agored a dirgel, yn y Wladwriaeth a'r Eglwys. Yn 1715 glan- iodd yr Ymhonnwr, fel y'i gelwir, yng ngogledd yr Alban. Hawliai ef goron Lloegr. Ei bwrpas oedd goresgyn Lloegr a diorseddu teulu Hanofer a lywodraethai'r wlad y pryd hwnnw. Tueddai teulu Stiwart at y Catholigion, ond Protestaniaid rhonc oedd llinach Hanofer. Hanoferiad a Phrotestant pybyr oedd Theophilus Evans. Yr oedd rhwyg a therfysg yn y Wladwr-