Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Patristiaeth Gwerth y Tadau Bore i Ni N1 allaf beidio a theimlo bod y testun a ddewisais i'r ddarlith hon yn ymddangos, ar yr olwg gyntaf, yn un heb fawr ddim pwys ymarferol yn perthyn iddo. Aeth deuddeg cant union o flynyddoed heibio erbyn hyn er pan fu farw St. Ioan o Ddamascus, yr olaf o'r Tadau Groeg, a bron na chlywaf leisiau'n gofyn pa bwys yn y byd i weinidogion Cristionogol, ac i rai o dan addysg ar gyfer y Weinidogaeth yn yr ugeinfed ganrif, a ddichon berthyn i ddiwinyddion ac i ysgrifenwyr oesau cyn belled yn ôl. Perthynai'r Tadau, meddir, i oes hollol wahanol i'r eiddom ni: yr oeddynt yn byw mewn byd â'i broblemau cym- deithasol a gwleidyddol yn wahanol iawn. Ni wyddent ddim am broblemau gwyddoniaeth ac athroniaeth ddiweddar, ac mae hyd yn oed, ffurfiau eu celiyddau cain yn wahanol hollol i rai heddiw. Y mae'r Tadau, o bosibl, yn ddiddorol i ychydig arbenigwyr, megis ag y mae pawb o'r pobloedd cyntefig a adawodd lenydd- iaeth i ni, y gellir ei darllen. Ond a all eu syniadau a'u delfryd- au hwy am fywyd feddu unrhyw werth dirweddol heddiw? Wedi'r cwbl ni wyr y rhan fwyaf ohonom ryw lawer amdanynt, ac onid gwell, gan hynny, fyddai i ni eu gadael ym mro angof ? Pa rym bynnag a all berthyn i'r gwrthwynebiadau hyn, erys un ystyriaeth o fath gyffredinol sy'n sicrhau y bydd oes y Tadau Eglwysig Bore fyth yn ddiddorol i'r Eglwys Gristionogol. Yr oedd yr oes honno'n disgyn yn uniongyrchol o linach Cristion- ogaeth gyntefig, a gadawodd honno argraff arhosol ar ei hanes. Tyfodd hadau'r Efengyl ar dir Semitig. Aramaeg ac nid Groeg oedd yr iaith a siaredid gan yr Arglwydd a'i ddisgyblion cyntaf, ac yr oedd cysylltiadau gwreiddiol yr Efengyl yn Hebreig, fel y dangosir fwy fwy gan astudiaeth ddiweddar o gefndir y Testa- ment Newydd. Dylid, gan hynny, geisio ffrâm Cristionogaeth gyntefig, nid mewn syniadau Groegaidd, ond yn yr Hen Desta- ment a'i ddatblygiad mewn Iddewiaeth ddiweddarach. Ni ddaeth hyn yn amlycach yn unman nag mewn astudiaethau diweddar o gefndir Swper yr Arglwydd a'r gwasanaeth addoli Cristionogol cynnar. Yr oedd eu cysylltiadau hwy'n Iddewig, nid â'r cyfrin grefyddau paganaidd fel y tybiai pawb bron ryw genhedlaeth