Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD "Cerddor y Cysegr. CERDDOR y CYSEGR ■" oedd teltl un 0 lyfrau fy nhad yr edrych j ais arno filoedd o weithiau pan oeddwn yn rhy fychan i wybod beth oedd ystyr Cerddor na Chysegr," ac felly ni chyfleai'r enw ddim imi. Buasai'n haws imi ddeall y teitl pedfai yn Canwr y Capel" oherwydd fy aeddfedrwydd i wybod yr hyn a olygai'r naill a'r llall o'r geiriau hyn. Teitl un 0 lyfrau- Tany- marian,—casgliad o donau, — a gyhoeddwyd oddeutu can mlynedd j yn ôl oedd hwnnw, a thybiais mai teitl cymwys iawn i wrthrych yr ysgrif hon a fuasai "Cerddor y Cysegr," oherwydd iddo gysegru eLholl oes faith o gant namyn chwech o flynyddoedd i ddyrchafu caniadaeth y cysegr, a dyrchafu ei Greawdwr drwy hynny, er bod ei wasanaeth cenedlaethol fel cerddor wedi bod yn eithriadol o fawr. Cerddor mawr oedd J. T. Rees a gysegrodd flaenffrwyth ei lafur i'w Dduw, gan ei ogoneddu mewn meddwl, llafur, ymroad, a buchedd. Prin ydyw nifer y cerddorion o ddoniau mawr yng Nghymru sy wedi cerdded llwybr gogoniant i'w Duw. Huliodd gwrthrych yr ysgrif hon flodau persawr y nef ar lwybrau creig- iog a danheddog y pererinion. Ar bwys ei allu mawr fel cerddor gallasai fod wedi cael swyddi enillfawr a safleoedd anrhydeidus yn y maes cerddorol, ond gryfed oedd ei gariad at geinciau y cysegr fel nad oedd y gogoniannau eraill ond eilradd yn ei olwg. Bu farw yn 1949, mewn cyfnod na fedrai'r un newyddiadur cenedlaethol hepgor lle i roddi llawer o sylw iddo. Nid diffyg parch oedd hyn ond prinder gofod, y mae'n debyg. Petai Eifion- ydd yn fyw flwyddyn ei farw, tybiaf y buasai wedi atgoffa tri neu bedwar o ysgrifenwyr teilwng ei fod yn gerddor digon mawr ac yn gymwynaswr digon cyffredinol i gael tair neu bedair o ysgrifau graenus amdano. Oni phenodwyd ef yn un o arholwyr graddau Gorsedd y Beirdd yn 1892, ac oni pharhaodd yn y