Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nyni Ein Hunain O bob pwnc, hwn ydyw'r pwnc y mae gennym leiaf o wybodaeth yn ei gylch ac o ddirnadaeth amdano. Pan ystyriom y modd y datblygodd yr hil ddynol drwy'r canrifoedd, daw un ffaith arben- nig iawn i'r golwg, sef mai gyda'r byd allanol y dechreuodd pob deall, ac nid yn anaml fe ddechreuodd y deall hwn gyda'r gwrth- rychau pellaf oddi wrthym. Fe geir prawf amlwg o hyn yn hanes gwyddoniaeth, oblegid seryddiaeth yw'r wyddoniaeth hynaf, a meddyleg yr ieuengaf oll. I Amcanaf wneuthur ychydig sylwadau, o safbwynt meddyleg, ar rai o'n prif nodweddion fel Cymry, ond gan nad oes gennym, fel yr awgrymais eisoes, wybodaeth safonol ar ein pwnc, gofyn cwestiynau ac nid eu hateb a wneir, a thrwy hynny gobeithiaf allu ennyn diddordeb ynddo a symbylu ymchwiliad iddo. Cred- af nad anfuddiol i'r amcan hwn fydd galw sylw at y gwrthebion hynny (paradoxes) y sydd i'w canfod yng ngwead cymeriad ein cenedl. Brysiaf i sicrhau'r darllenwyr nad ydwyf, hyd yn oed, yn awgrymu bod anghysondeb yn fwy nodweddiadol ohonom ni'r Cymry nag ydyw o genhedloedd eraill, canys nid ydym wedi meddiannu'r cwbl ohonom ein hunain. Pan fo cenhedloedd y blaned hon yn sôn am ei gilydd, siaradant yn hynod debyg i arfer pobl ambell i bentref bychan pan fyddont yn siarad am eu cym- dogion, hynny yw­sôn yn gyntaf am ryw nodwedd go dda a all fod yn eiddo'r sawl y siaredir amdano, eithr gofelir yn ebrwydd gydio'r nodwedd honno wrth ryw "ond". Sonnir am y Sais fel dyn ymarferol, ond diawen; am y Ffranc- wr fel meddyliwr clir, ond amheus ei fuchedd: yr Ellmynwr fel gwr trwyadl, ond trwsgl; yr Hisbaenwr yn urddasol, ond creulon; yr Americanwr yn fywiol ond cwrs neu fras. Wrth ddyfynnu'r cyplau hyn nid wyf am gyfleu'r syniad fy mod yn credu eu bod yn gywir a theg, eithr eu bod yn dangos y duedd gyffredinol i fynegi prif nodweddion cenedl mewn gwrth- gyferbyniadau, y naill nodwedd yn dda a'r llall yn ddrwg neu yn annymunol, a hynny fel prawf o darddiad deublyg y natur ddynol.