Sut y sicrheir unoliaeth yn eu hamrywiaeth ? Beth, yn arbennig, yw perthynas y wladwriaeth a chymdeithasau eraill? Ynghyd â phroblem yr unigolyn dyma broblemau sylfaenol y wladwriaeth aeddfed. Y maent yn bwysicach nag erioed heddiw. VI DIRYWIAD RHUFAIN. Dyma bellach bopeth hanfodol y wladwriaeth. Eithr nis sylweddolwyd i berffeithrwydd o dan yr ymerodraeth Rufeinig, nag, yn wir, yn unman. Yr oedd y Rhufeiniaid yn dibynnu llawer ar wasanaeth caethion a drinid yn llym ac anystyrgar. Fel y cynyddai eu godidowgrwydd ymerodrol aethant hefyd yn fwy glwth a mympwyol. Gwasgwyd ar y tlawd, a'i werthu pan na allai gyfarfod ei ddyledion a'r trethi. Weithiau diystyrai'r rhaglawiaid eu cyfrifoldeb at y taleithiau a'u trin fel moddion i ymgyfoethogi yn unig. Collai dinasyddiaeth Rufeinig hefyd lawer o'i gwerth am fod yn rhaid mynd i Rufain i arfer rhai o'i breintiau pwysicaf. Ni fabwysiadwyd cynllun boddhaus i gael cynrychiolaeth o'r taleithiau. Ychydig o gyfoedion yr Ymherawdr Vespasian a arddangosodd weledigaeth mor graff ag ef pan geisiodd ef ddiogelu unoliaeth yr ymerodraeth drwy agor y senedd i fil o deuluoedd pendefigaidd o amryw barthau. Fel y cynyddai'r angen am fyddinoedd mawrion a milwyr wrth alwedigaeth, llithrodd y dylanwad i ddwylo'r cadfridogion. Cipient y prif swyddi a llygru'r cynghorau. Felly y bradychai Rhufain ei gweledigaeth fawr am heddwch a ffyniant cymdeithasol wedi ei sylfaenu ar gyfraith sicr a chydweithrediad a goddef- garwch. Aeth i efelychu'r hen ymerodraethau dwyreiniol, a goddiweddwyd hi gan yr un dynged drist. Nychodd teyrngarwch ei deiliaid, a chododd anghydfod rhyngddynt. Agorodd hynny'r drws i'r barbariaid a'u hanrheithiodd. Mewn ysgrif arall disgwylir olrhain twf y Wladwriaeth Fodern. Coleg y Gogledd, Bangor. Hywel D. LEWIS.