Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Er Cof am Syr Daniel Lleufer Thomas 1863-1940 Nid byr-gofiant i Leufer Thomas fydd y nodiadau hyn; ychydig adnabyddiaeth bersonol ohono a gefais, a hynny mewn ysbaid byr o ryw ddwy flynedd cyn imi adael Caerdydd. Bûm wedi hynny yn gohebu rhyw gymaint ag ef am ychydig, ond yr oedd yn amlwg fod ysgrifennu llythyrau erbyn hynny'n flinder iddo; fe ddywedodd wrthyf yn drist o'r diwedd fod ei gof yn pallu a'i iechyd yn gyffredinol wedi mynd yn rhy fregus i'w alluogi i roi imi'r help y carasai ei roi. Pleser a balchder, prudd iawn, imi oedd clywed gan gyfaill inni'n dau, ar un o'r troeon diwethaf y bûm yng Nghaerdydd, fod Lleufer yn ei henaint a'i lesgedd mawr eto'n dal i gofio'n garedig amdanaf. Y mae'n wir llin gennyf na chawswn fwy o'i gymdeithas, oblegid bu gennyf erioed feddwl mawr ohono. Ymhell cyn imi ei weld, yr oeddwn yn edmygydd mawr o'i waith hanesyddol. Ystyriwn ef yn chwilotwr gwych. Y mae'n debyg na phoenais fy mhen yn y cyfnod hwnnw gyda'r cwestiwn sut yr oedd yn ennill ei damaid- credu'n ddifeddwl ei fod mewn swydd uchel a phromdiol, a chredu'n ddiffuant ei fod yn ei llawn haeddu yn herwydd ei ddysg a'i waith hanesyddol. Wedi symud i Gaerdydd, daeth rhyw gymaint mwy 0 wybod- aeth amdano, ond gyda hynny gryn dipyn o gam-farn. Cyf- reithiwr, mi gefais, oedd Lleufer Thomas. Ac nid un o'r twrneiod enwog hynny chwaith sy'n hel clod (a chyfoeth) gan swyno rheithwyr gwlad â'u huodledd; ond ynad cyflog (1909-33) tua Chwm Rhondda, oedd Lleufer; swydd bwysig ac anrhydeddus ddigon, ond bod y cyflog yn darfod gyda'r gwaith, gyda'r can- lyniad nad oedd yr Ynad cystal ei fyd â llawer prifathro Ysgol Ganolraddol-a'r canlyniad arall, ysywaeth, iddo orfod dal ymlaen yn hir gyda'i waith, dan bwysau henaint a musgrellni. Hefyd, ar sgwrs pobl eraill yng Nghaerdydd y bu'n rhaid imi seilio fy syniadau am Leufer fel dyn. Cofier nad oedd lawer o siawns i athro ysgol i ddod i adnabod gwr amlwg fel Lleufer, yn