Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyddiau Olaf y Crynwyr yng Nghymru Teitl cymwys arall a fuasai, — "A fynno glod, bid .farw," canys clodforir y Crynwyr heddiw led-led Cymru. Dichon bod eu henw da presennol fel dyngarwyr yn un rheswm dros y parch hwn a ddangosir iddynt; eithr y mae'n bosibl hefyd priodoli'r parod- rwydd hwn i ganmol i'r ffaith nad ydyw'r Crynwyr bellach namyn atgof diniwed yng Nghymru. Ceisiodd y Parchedig T. M. Rees wasgaru ychydig ar niwl yr atgof; gwnaeth y diweddar Richard Jones hefyd waith da i'r perwyl hwn; ac nid oes brinder mân erthyglau i'r un cyfeiriad yn y cyfnodolion. I'r rhain oll, ysy- waeth, y mae un ffaith yn gyffredin, sef nad ymdrinir yn llawn o gwbl â hanes y Crynwyr yng Nghymru wedi 1700; darlunir cyf- nod yr egino a'r blodeuo, eithr gadewir y planhigyn i farw yn y tywyllwch. Yn y tywyllwch hwn y tywynnai'n egwan oleuni John Kelsall. Hem Grynwr o Sais a ddaeth, yn fachgen ieuanc deu- nawoed, fel ysgolfeistr i Ddolobran ger Pontrobert Oedd ef, ac yng Nghymru-rhwng Dolobran a Dolgellau-yr arhosodd o 1701 i 1735, er iddo adael y swydd o ysgolfeistr yn 1713, ac o hynny ymlaen fod yn glerc gwaith haearn yn y ddwy ardal yn eu tro. Gwr melancolaidd, gofalus a chrefyddol oedd, a da i mi am y ddwy gynneddf ddiwethaf, canys ei natur ofalus a sicrhaodd i ni ei ddyddiaduron a'i bapurau; ei natur grefyddol a roes iddo ei bwysigrwydd cyfoedol ymysg Crynwyr Cymru; a chyfuniad o'r ddwy gynneddf a barodd dddo groniclo hynt a helynt Crynwyr ei oes. Ychwanegir at werth ei dystiolaeth gan ei bwysigrwydd cyf- oesol. Ar ei bapurau ef yn bennaf y sylfaenir hyn o ysgrif. I Fel y gwyddys, nid oedd fawr groeso i Ymneilltuaeth yng Nghymru yn y cyfnod cyn y Diwygiad Methodistaidd,­y cyfnod y ganwyd Crynwriaeth ynddo; gan amlaf, yn y rhannau nesaf at Loegr y ffynnai'r tipyn Ymneilltuaeth a geid yma. Eto dyma oes Walter Cradoc, Vavasor Powell, a Morgan Llwyd; a M'organ Llwyd a anfonodd ddau o'i ddisgyblion at George Fox i holi ynghylch y grefydd newydd. O'r ddau ddisgybl, arhosodd un ar ôl, sef John ap John, 0 ardal fìwrecsam, ac efô a fu'm un o