Rhagolygon Ymfudiaeth o Gymru tuag 1850 Yn 1847, dechreuodd S.R. a'i frodyr ddefnyddio Cronicl y Cyrn- deithasau Crefyddol, y pryd hwnnw yn ei bedwaredd flwyddyn, i bregethu ymfudiaeth i ffermwyr Cymru, ac yn 1856, aeth Richard Roberts (sef Gruffydd Risiart, neu G.R.), ac ychydig bobl o Lanbrynmair gydag ef i ran ogleddol adran orllewinol East Ten- nessee, Ile yr oedd S.R. wedi prynu, â'i arian ei hun, ac, 0 leiaf, ag £ 800 o arian benthyg, gan mil o erwau o dir. Bwriedid i'r cwmni hwn osod sylfaen i'r Gymdogaeth Gymreig y gobeithid ei ffurfio yno. Nid y bwriad oedd plannu math o Ynys i Gymry a'r Iaith Gymraeg ynghanol pobl ddu a phobl wyn perthynol i wahanol genhedloedd; yr amcan oedd datblygu ardal, denau ei phoblogaeth, a'i gwneuthur yn gymydogaeth y medrai fferm- wyr a llafurwyr o Gymru ymsefydlu o fewn cyrraedd i'w gilydd ynddi, ac ar yr un pryd, dderbyn holl fanteision byd newydd, a bod o fewn cyrraedd i ddylanwad y diwylliant cyfoethog y rhoddir mynegiant iddo yn yr iaith Saesneg. Yn 1848, aeth Michael D. Jones i Ohio. Treuliasai bedair blynedd yng Ngholeg Caerfyrddin yn ymbaratoi ar gyfer y weini- dogaeth Annibynnol, a phedair eraill i'r un pwrpas yng Ngholeg Highbury, Llundain. Ond y mae'n amlwg na theimlai awydd cryf i gymryd gofal eglwys. Y cwbl a ddywaid ei fywgraffydd, Pan Jones, yw: "Nid ydym yn sicr os oedd ganddo ef ei hun ar y pryd weledigaeth eglur ynghylch galwedigaeth. Er hynny, wedi cyrraedd Cincinnati, tref a llawer o Gymry ynddi, ymgym- erodd â'r swydd o efengylwr i eglwys yno, a chyflawnodd ei ddyletswyddau am rai misoedd. Yr oedd mudiad yr ymfudo tua'r Gorllewin y pryd hwnnw yn eithriadol o gryf, a chymerodd M. D. Jones ddiddordeb dwfn ynddo. Siaradodd ac ysgrifennodd gryn lawer am ffurfio Gwladychfa Gymreig, "He i'r Cymry ar eu pennau eu hunain," a man na siaredid un iaith ond Cymraeg ynddo. (Mae'n amlwg mai eiddo Sorobabel oedd ei arwyddair,- "Nyni ein hunain a adeiladwn "). Cawn ef, tua diwedd 1848, yn annog y Cymry i ymfudo i Wisconsin, a gwladychu yn y Dal- aith honno. Am ryw reswm aneglur, dychwelodd i Gymru yn haf 1849, a dilynodd y Parch. John Thomas fel gweinidog eglwys