Y TRAETHODYDD Cychwyn Colegau'r Methodistiaid Calfinaidd Y mae yn y byd anianol rywbeth a elwir yn gas gan gythraul." Gwisgai'r ofnus ysbrigyn o lawryfen, olewydden, neu fyrtwydd fel swyn i ddychryn Satan. Tybiai llawer iawn o'r bobl dda a oedd yn arwain gyda chrefydd yn niwedd y ddeunawfed ganrif, a'r rhan gyntaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, fod peth cas gan yr Ysbryd Glân." Edrychid ganddynt ar addysg a diwyll- iant fel pethau na fynnai'r Ysbryd Glân wneud dim defnydd ohonynt, a'u bod, mewn gwirionedd, yn rhwystr i lwyddiant yr Efengyl yn gyffredinol. Iddynt hwy mamaeth duwioldeb oedd anwybodaeth. Ni wn i am neb a osododd y safbwynt hwnnw'n fwy gonest, a chyda mwy o hunan-foddhad, na'r Dr. John Jenkins, Hengoed. "Nid oeddwn'i ond bachgenyn tlawd yn y byd, fel y nodais; ond ymhen ychydig amser, wedi i mi arfer pregethu tipyn yn gyhoeddus, cynnygiodd yr eglwys yn Llan- wenarth fy nghynnorthwyo i gael pedair blynedd o ddysg athro- faol yn Athrofa Caerodor, yr hon oedd yr unig athrofa a feddai y Bedyddwyr yr amser hwnw yn y deyrnas hon. Eithr nid oeddwn i y pryd hwnw, mwy nag yn awr, yn golygu dysg athrofaol yn hanfodol angenrheidiol er addasu dynion i'r weinidogaeth efeng- ylaidd, gan nad ydyw yn sylfaenedig ar unrhyw orchymyn na gosodiad dwyfol; ac felly meddyliwn, os oedd yr Arglwydd yn fy ngalw at waith ei gynhauaf mawr, ei fod ef yn alluog i'm gwisgo a'r cymhwysderau gofynol, heb i mi golli pedair blynedd o'm tymhor gweithio wrth ddysg[u] ieithoedd yn Nghaerodor. Dichon y bydd llawer yn ei gyfrif yn ffolineb mawr ynof i wrthod myned i'r athrofa; nid oes dim i'w wneud ond i'r cyfryw geisio cyd-ddwyn a mi ychydig yn fy ffolineb; ac os gallant gyd-ddwyn a'm ffolineb hyny ynof mor ddiddig ag yr wyf fi wedi dwyn ei ganlyniadau, ni bydd eu baich yn drwm iawn" (Buchedd J. Jenkins, td. 25).