Ofnwn na chawn ofod i sylwi yn fanwl ar weddill y gyfrol. Apeliodd rhannau o'r cywydd atom, a'r gyntaf o delynegion Mr. James Evans, Crynant, a thrioled lefn esmwyth y Parchedig J. Price Williams, Abertawe. Sylwn hefyd fod beirdd Cymru'n canu'n llawer iawn gwell yn Gymraeg nag yn Saes- neg. Y mae'r idiom-feddwl Cymreig yn mynnu gwthio ei ffordd i'r golwg Ue bo'r defnydd yn wan, a chwith yw ei weld mewn gwisg fenthyg. Ebbw Vales. R. Meibion ROBERTS. PLATO AMDDIFFYNIAD SOCRATES. Cyfieithwyd gan D. Emrys Evans. Pris Deunaw. Caerdydd. 1936. Td. xvi. + 48. Dyma gyfieithiad hapus iawn mewn iaith lân a chroyw o'r Apologia. Gellir llongyfarch y cyfieithydd ar gadw cymaint o brydferthwch a huotledd y gwreiddiol. Wynebodd lawer anhawster. Un o'r rhai cyntaf oedd dewis rhwng y ddau enw Plato a Platon. Yr olaf yw'r ffordd Roegaidd o ysgrif- ennu'r enw, ond y flaenaf sydd fwyaf naturiol i ddarllenwyr fel nyni a fagwyd ar lyfrau Saesneg. Ac eto anhyfryd iawn y tery'r gair Plato (a'i ddweud yn y dull Saesneg) ar y glust ynghanol brawddeg Gymraeg. Cawn fwy o drafferth gyda'r gair Saesneg Aristotle. Hwyrach mai Aristoteles neu Arts* totles yw'r Cymraeg gorau am hwn. Y mae Aristotl neu Aristotlè yn an- hapus iawn. Onid gwell fyddai derbyn rheol fel hon, ein bod yn dilyn y ffordd Roegaidd lle bynnag y bo hynny'n bosibl? (Nid yw Aỳollodoros, er enghraifft, yn bosibl, ond Apolodoros). Nid yw'r Prifathro yn amharod i ddilyn y Roeg yn hytrach na'r Saesneg ar dro. Ysgrifenna Critobwlog ac nid Critobolus, ac yn sicr hyn sydd orau. Ond os Critobwlos ac Aristoteles, oni ddylid defnyddio Platon hefyd er mwyn cysondeb? Cawn ragymadrodd cryno i'r cyfieithiad, a disgrifir ynddo'r sefyllfa yn Athen yn 399 C.C. Esbonia'r Prifathro wir achos merthyrdod Socrates. Gwysiwyd ef o flaen ei farnwyr, pum cant ac un o ddinaswyr Athen, i wynebu dau gyhuddiad: (τ) nad oedd yn credu yn nuwiau'r ddinas, ond mewn ysbrydion dieithr, (2) ei fod yn Uygru'r gwyr ifainc." Ond nid o achos hyn y merthyrwyd Socrates. Culni a balchder rhai o arweinwyr y ddinas a'u trodd yn erbyn Socrates. Yn y llys Anytos, Meletos a Lycon oedd yr erlynwyr, ond gwyddai Socrates fod cyhuddwyr eraill ganddo, ac atebodd y rheiny yn y rhan gyntaf o'i araith. Arweiniwyd Socrates gan dduw neu ddaimon i chwilio ystyr proffwydoliaeth oracl Delphi, sef mai ef (Socrates) oedd y doethaf o ddynion. Adrannau byw iawn yn yr araith yw'r adrannau hynny (v.­ix.), He y disgrifia ei waith eynefin-holi dynion, gwleidyddwyr, beirdd a chrefftwyr, ynghylch eu dotih- ineb, gan ddarganfod o hyd mai annoeth oeddynt, er eu bod yn credu "u b'>d yn ddoeth. Oddi wrth hyn casglodd Socrates mai gwir ystyr y broffwydol- iaeth amdano oedd a ganlyn: Hwnnw ohonoch, ddynion, sydd ddoethaf, a ŵyr, fel Socrates, ei fod yn ddiwerth yn wir mewn doethineb." Nid rhyfedd