reig i fod yn swyddogion ar long fawr y Llywodraeth Brydeinig? Ni welaf i fai arnynt am y dewis hwnnw a wnaethant. Ond gormod o beth yw dweud i Gymru eu bwrw ymaith. Dolwyddelan. Morris THOMAS. i. SCHEME FOR THE COLLECTION OF RURAL LORE IN WALES. 2. NEGLECTED TREASURES OF THE COUNTRYSIDE. 3. THE COUNTRYSIDE AS EDUCATOR. TYF yr hyn sydd o'r hyn a fu." Sylweddoli'r gwirionedd hwn a arweiniodd Adran Gymraeg y Bwrdd Addysg i dynnu allan Gynllun Cenedlaethol i gasglu a chofnodi traddodiadau ar arferion ardaloedd Cymru drwy gyfrwng yr ysgolion elfennol a sirol a cholegau Prifysgol Cymru." Eglurir y cynllun hwn mewn tri llyfryn a gyhoeddwyd ganddo, llyfrynnau a ddylai fod yn llaw pob athro a disgybl drwy Gymru benbaladr bellach. Rhoddir uchod enw'r tri llyfr. Dyddiad y llyfryn cyntaf ydyw 1920. Gwyddom yn eithaf da pwy oedd yn llywodraethu yn yr Adran Gymreig o'r Bwrdd Addysg am flynyddoedd, gwr caruaidd o'r wlad, a chyda llaw o Feirion dirion, a gwr a oedd wedi ymweled â phob congl o Gymru, ac wedi eu disgrifio un ai yn y Cymru Coch neu CymruW Plant. Ar y chweched dalen o'r llyfryn cyntaf a enwir oeir y darn swynol a ganlyn: "Y mae enwau Cymru,enwau ei chartrefi, enwau ei chaeau a'i dolydd a'i ffriddoedd, enwau ei haberoedd a'i hafonydd, enwau ei bryniau a'i mynydd- oedd,­yn brydferth iawn. Enwau melodaidd ein tadau ydynt, yn llawn o hanes yr hen amser gynt. "Yr ydym yn gofyn i blant yr ysgolion wrando ar yr enwau, a'u casglu, i'w cadw i'r oesau a ddêl. A dyma ddull difyr i ddysgu hanes a daearydd- iaeth. Cawn yn yr enwau adlais o fywyd hapus a phur oesoedd fu a hefyd, ambell dro, swn rhyfel, a cholled, a gwae, a galar. "Wrth gasglu yr enwau daw athraw a phlentyn i deimlo fod bywyd Cymru yn ddyddorol a chyfoethog. Dechreua agor ei lygaid ar brydferthwch na welodd o'r blaen. Dechreua glywed calon Cymru, ei wlad, yn curo. A dyna beth ydyw addysg iawn. Nid anghofia yr addysg hwn tra byddo byw. Deil i weled, ac i wrando, ac i chwilio; a daw ei wlad o'i amgylch yn fwy byw ac anwyl iddo o hyd. Mae ein gwlad yn anwyl i ni. Hi yw gwlad ein tadau. Ynddi y buont yn byw ac yn meddwl ac yn canu. Y mae eu bywyd a'u hathrylith wedi aros ar ei bryniau, € Mae'r oll yn gysegredig. Mae barddoniaeth Nefolaidd ar yr holl fynyddoedd hyn. Nid yw'n anodd dychmygu pwy pïau y darn swynol yna.