Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

maenwr. Trwy Ddeddf a unodd y pedair talaith yn 1910, gosod- wyd hawliau iaith yr Isalmaenwr a'r Sais ar yr un tir yn hollol, a chanlyniad hyn oedd gosod yr Isalmaeneg hithau ar dir hollol ddiogel. Yn y cyfamser, newidiasai agwedd meddwl disgynydd- ion pobl Holand tuag at yr Isalmaeneg. Penderfynwyd, gan y rhai a wnaeth Ddeddf Llywodraeth yr Undeb, roddi'r Affricaneg (Afrikaans), y ffurf honno i iaith Holand a geid yn Ne Affrig, ar yr un tir â'r Isalmaeneg; a'r enw yr adwaenid wrtho'r sawl a gytunai â'r trefniant hwn oedd Afrikander," h.y., pobl Affrig. Galwn ni hwy yn yr erthygl hon yn Affricander. Dylid egluro hefyd mai â phwnc y ddwy iaith fel y gweithir ef allan yn nhalaith y Cape, ac yn arbennig yr adran Ewropeaidd ohoni, yr ymwneir yn yr ysgrif hon. II Y defnydd a wneir o'r ddwy iaith swyddogol. Gellir dywedyd y defnyddir'y ddwy iaith swyddogol, h.y., y Saesneg ac Affricaneg, yn lled gyffredinol drwy'r Undeb, a bod y trefniant hwn yn cyrraedd hyd at y ddwy Rhodesia, a De- Orllewin Affrica, a'r rhanbarthau a elwir yn Amddiffyniaethau. I ba le bynnag yr ymfudai'r Isalmaenwyr Affricander, dygent eu hiaith gyda hwy. Gellir datgan yn groyw fod bellach le pendant i'r ddwy iaith yng nghylchoedd deddfwriaeth, dinasyddiaeth, masnach, ac ym mywyd cymdeithasol a chrefyddol pobl De Affrica. (a) Cylch deddfwriaeth a dinasyddiaeth. Cyhoeddir deddfau'r wlad yn y ddwy iaith swyddogol. Yr arfer ydyw i'r Rhaglaw (Governor-General) arwyddo un copi o bob deddf a besir gan y Senedd Undebol. Os arwyddid copi Saesneg o ddeddf rhif 17 mewn blwyddyn arbennig, dyweder 1921, yna arwyddid copi Affricaneg o ddeddf rhif 18 yn yr un flwyddyn, ac arwyddo copi Saesneg a chopi Affricaneg bob yn ail deddf o hyd. Pe digwyddai unrhyw anghysondeb yn y cyfieithiad, y copi sy'n dwyn llawnodiad y Rhaglaw a gyfrifir yn swyddogol. Yn holl lysoedd y wlad, y mae'r ddwy iaith yn gyfartal o ran safle, a chynhelir profion yn un o'r ddwy iaith neu yn y ddwy gyda'i gilydd, h.y., dyry un ei dystiolaeth yn Affricaneg ac arall yn Saesneg. Cy- hoeddir holl gyhoeddiadau'r wladwriaeth, yn hysbysiadau ac ad-