Pwnc y Ddwy Iaith yn Neheudir Affrica I Y Cefndir Hanesyddol. FE gynnwys Undeb Deheudir Affrica bedair talaith: y Cape, yr Orange Free State, y Transvaal, a Natal, ynghyda hawl i warchod dros Dde-Orllewin Affrica. Mewn tfordd, datblygwyd y taleith- iau hyn o'r wladfa gyntefig, y Cape of Good Hope. Yn 1602 ffurfiwyd y Dutch East India Company yn Holand, neu'r Isal- maen, fel y mynn rhai alw'r wlad honno. Parodd tyfiant y Cwmni hwn, a'i drafnidiaeth â'r India, i'r cwmni ddymuno cael darn o wlad, fel y ceffid cyfle i orffwys, ffrwythau ffres, a thriniaeth fedd- ygol, gan forwyr y cwmni ar eu mordaith hir i'r India. Yn 1652 anfonodd Cyngor Holand Jan Anthony Van Riebeeck i Table Bay, ac yno adeiladodd ef gaer a chychwyn gorsaf masnach. O hyn ymlaen ymdaenodd sefydlwyr o Holand yn raddol dros y wlad. Yn y blynyddoedd a ddilynodd ddiddymu Edict Nantes (1685), atgyfnerthwyd hwy gan oddeutu 200 o Brotestaniaid Ffrengig a ymsefydlodd yno; ond ni chefnogwyd eu hiaith hwy, ac ymhen tair cenhedlaeth ni siaradai neb Ffrangeg yno. Yr iaith swyddogol a ddefnyddid yn y Wladfa, ac mewn gwirionedd unig iaith diwylliant y wlad ydoedd Isalmaeneg, neu, fel y gelwid hi, Nederlandse Taal. Ac er bod yno gaethweision o Malay a lleoedd eraill, nid effeithiodd hynny rhyw lawer ar yr iaith; ond erbyn can mlynedd, fe newidiasid tipyn arni, a hynny'n naturiol oherwydd pellter ffordd o Holand, a phrinder cyfleuster- au addysg. Gwelwyd hyn yn eglur yn ddiweddarach, oherwydd tyfodd ohoni iaith arall, yr Afrikaans, neu fel y galwn ni hi yn yr ysgrif hon, Affricaneg. Yn 1806 syrthiodd Holand i ddwylo Napoleon, a phenododd yntau ei frawd Louis yn frenin arni. Talodd Lloegr y pwyth iddo drwy gymryd y Cape, a chydnabuwyd y lle fel eiddo Lloegr drwy gytundeb yn 1815. Gwyddys yn dda erbyn hyn fel yr ymsefydl- odd pobl o'r Cape yn yr Orange Free State a'r Transvaal, a hefyd mewn rhannau o Natal. Terfynwyd y Rhyfel rhwng Prydain a'r Boeriaid (1899-1902) drwy Gytundeb Vereeniging. Un amod yn y Cytundeb hwnnw ydoedd addo parchu hawliau iaith yr Isal-