Problem Poen I CLYWAIS sylw y dydd o'r blaen mewn pregeth, "Nid oes problem yn y Beibl, dim ond dirgelwch." Awgrym y pregethwr oedd mai i feddwl anesmwyth, materol ein hoes ni y mae problem- au o bob math mor holl-bresennol; i ysgrifenwyr y Beibl safai Duw y tu ôl i bob anhawster, personol neu genedlaethol, a sicr- hai'r ffaith o Dduw warant am oleuni ar bob dirgelwch yn y man. Ni theimlaf yn hollol sicr fy hun fod hwn yn wirionedd, namyn cyferbyniad areithyddol yn unig. Wedi'r cyfan, ni olyga problem a angenrheidrwydd anhawster na cheir byth oleuni arno, onid e, anonest yw gwaith athro yn rhoi i'w ddisgyblion broblem me\\n rhif neu fesur. Ac er cydnabod yr ymddengys llu o'n problem- au cymdeithasol a rhyng-wladol heddiw yn glymau anodd iawn eu dadrys, gwadiad o bob math ar wleidyddiaeth a fyddai credu nad oes modd eu datod o gwbl. Tyfodd y gair Groeg gwreidd- iol, drwy wahanol liwiau ystyr, o benrhyn a "deifl allan" i'r mór, rhwystr a fwrir o flaen dyn, esgus a "ddygir ymlaen" i gyfreithloni ymddygiad, i lawr at dasg a osodir gerbron ymgeiswyr mewn arholiad. 'Canfyddir yn y datblygiad yna sym- udiad o ystyron syml ym myd mater-pcnrhyn a chraig rhwystr, i ystyron ehangach a phenagored ym myd y meddwl — esgus (nad yw yn ffaith) a thasg a dretha gywreinrwydd i'r eithaf. Felly y daeth "problem erbyn heddiw yn anhawster a orwedd ar ein ffordd, gan ein herio i ddarganfod dihangfa: yn dasg galed nad oes modd ei hosgoi. Eto, rhaid bod ffordd heibio yn rhywle, fel y llwybr a ddarganfu gwyr Persia yn Thermopylae i ymosod ar y Groegiaid o'r tu cefn; os oes synnwyr a deddf yn rheoli'r byd, rhaid bod ateb i'r pós. Gwir a awgrymai'r pregethwr, fel pregethwr, y try alcemi ffydd grefyddol bob problem yn "wirionedd i'w gredu," ei dderbyn fel peth da a llesol, er methu â'i amgyffred. Dyna han- fod ffydd, a gwaith pregethwr yw argymell ffydd ddyfnach yn ei wrandawyr. Eto, nid diffyg mewn ffydd yw ceisio dirnad