Rnai o nodweddion gwerthfawrocaf yr esboniad yw cymryd adran gyda'i gilydd-ac ymatal rhag rhoddi nodiadau ar bob adnod, a hefyd rhoddi yng nghorff yr esboniad, ar ddiwedd adran, rai tudalennau i drafod pwnc a godir ynddi. Er enghraifft, ar ddiwedd yr ail bennod, ceir dau dudalen ar "Bed- yddio yn enw Iesu Grist," a rhagor na hynny i drin y cwestiwn "A oedd Comiwnyddiaeth yn yr Eglwys Fore?" Petaem yn beirniadu, dywedyd a wnaem fod aml frawddeg braidd yn swta ac oherwydd hynny yn aneglur heb inni ail ddarllen adran gyfan,—yn union y peth hwnnw a deimlir gennym wrth inni ddarllen darn o'n gwaith ni ein hun mewn print: yr oedd rhyw ddolen gydiol yn glir inni pan ysgrifennem, ond pan ddaeth y proflenni gwelem nad oedd y ddolen wedi ei rhoi i mewn gennym. Cymerer, er enghraifft, y nodiadau ar Barnabas (td. 94) neu ar Iesu o Nasareth" (td. 59), a gwelir hyn. Ond gan na chaiff awdur Llaw- lyfr weled proflenni ei waith ei hun, nid teg yw rhoddi'r bai hwn yn hollol wrth ei ddrws ef ei hun, mwy na'i feio ef am y gwallau print ac orgraff a geir mewn cyfrol fel hon. Yn anffodus, y mae nifer go luosog o'r rheini yma, er nad ydyw Ilawer ohonynt yn bwysig. Collodd pedr beth o'i urddas yn y testun ar waelod td. 176; aeth 1-17 yn 1-19 ar yr un tud., a 11. 28-30 yn 9. 28-30 ar td. 177. Y mae rhyw gymysgfa hefyd yn y cyfeiriadau a geir ar gychwyn yr adran ar Gomiwnyddiaeth (td. 68). Tybed mai Act. 2. 44­46; 4. 31, 32 a ddylai fod yno? Nid drwg fyddai cadw'r ffigurau Rhufeinig at y bennod, a'r rhai Arabig at yr adnod (e.e., ii. 44-46); yn yr esboniadau lle ni wneir hyn tuedda cyfeiriadau Ysgrythurol i fynd yn gymysglyd. Diolchwn i Mr. Rees am esboniad nad yw byth yn gwrthod wynebu an- hawster a'i wynebu'n deg iawn, ac am ymdriniaeth mor fyw a ffres, un a ddylai ddeffro meddwl pob un a'i darlleno. THE CALVINISTIC METHODISM OF WALES. By the Rev. John Roberts, M.A., Cardiff. Caernarvon The Calvinistic Methodist Book Agency. 78 pp. 1/6. In paper cover, 1/ Y mae'r Parch. John Roberts wedi dringo eisoes i gadair un o'r awdurdod- au pennaf ar Fethodistiaeth Galfinaidd. Gwyr llawer erbyn hyn, ni obeith- iwn, am ei Ddarlith Davies ar Methodistiaeth Galfinaidd Cymru, a diau y cofia rhai o ddarllenwyr Y Traethodydd am yr ysgrif ddiddorol o waith Mr. R. T. Jenkins ar honno, a gyhoeddwyd gennym yn rhifyn Ebrill, 1932. Clywodd eraill ohonom yr awdur yn traethu'n wych ar y Cyfundeb yn ei gynnydd yng Nghynhadledd ddiwethaf yr Eglwysi Saesneg yn Aberystwyth, mewn anerchiad a wna ei hun yr Adroddiad am y Gynhadledd honno yn drysor gwerth ei sicrhau a'i gadw. Llyfryn hylaw o Ragymadrodd a phum pennod yw hwnyma a adolygir gennym. Cyhoeddwyd ei gynnwys i ddechrau yn ysgrifau yn The Treasury, a da oedd i ryw gyfeillion fynnu cael y rheini mewn ffurf fwy parhaol. Yn y Rhagymadrodd codir cwestiynau byw, megis pam y cymerodd y Diwygiad