Yn nhudalennau 1-142 o'r llyfr argreffir tri o'r testunau cynharaf 0 "Ramadeg Einion Offeiriad," sef Llyfr Coch Hergest, Llanstephan 3, a Phen- iarth 20, y Beiau Gwaharddedig o Llanstephan 55 (copi Siôn Dafydd Rhys), y Dwned (copi Gutun Owain yn Llanstephan 28, a'i gymharu â dau arall), a'r Pum Llyfr üerddwriaeth (Jesus Coll. 9, yn llaw Simwnt Fychan). Yn nhudal- ennau 145-223, cyhoeddir amryw atodiadau, rhai'n cynnwys amrywiadau ar y testunau uchod, darnau ar gynghanedd a beiau o lyfrau beirdd ac uchel- wyr, a darnau ar ramadeg ac ar gerdd dafod o lawysgrifau Roger Morris a John Jones, Gelli Lyfdy. Yn eu plith, sef yn Atodiad D, rhoddir y darnau gwreiddiol yn y gramadegau Lladin a gyfieithwyd yn y gramadegau Cymraeg. Mr. E. J. Jones a gyfrannodd yr Atodiad diddorol hwn, ac ef a gopïodd hefyd destun y Dwned uchod. Onid gwallau argraffyddol ydynt, credaf y dylesid cywiro rhai mân wallau a gwella rhai darlleniadau yn rhai o'r enghreifftiau yn y llawysgrifau heblaw'r nifer lluosog a gywirwyd gan Mr. Williams. E.e., yn yr enghraifit gyntaf ar dud. 25 dwysgawd i dwysgawl (dwysgel ydyw darll. Llans. 55, 182); yn y gyntaf ar dud. 29 darll. blygeint, ac yn y drydedd cywirer Arthur i aruthur ac o var i y ovar; yn yr enghr. gyntaf ar dud 54 cywirer dygir i dyddygir; td. 60, yn yr enghr. o 'gyghhanedh bendroch,' darll. oes gvr yn un gair; td. 195, yn yr enghr. o 'ymsathr odlav,' cywirer llwyrav i llwybrav; td. 211, yn yr enghr. o 'sain dyblygedig,' onid gwell chwys na dwys (gw. dud. 213; hefyd Gwyneddon 3, iogb, a Gorchestion Beirdd Cymru 93), ac ar dud. 213, yn y bumed enghr., onid gwell cywiro ŷresflwng a ỳennflys i ỳresfwng a ŷeun- flys (gw. Gwyneddon 3 eto) ? td. 216, yn yr enghr. gyntaf dileer yr ail wrth yn y drydedd linell, ac yn yr enghr. olaf diwygier blainiad i blaniad ac ar dud. 218, yn llinell olaf yr enghr. o broest chweban,' cywirer gwallt i gwyllt. Tybiaf hefyd y gallesid gwella mwedigrwydd yn nhrydedd linell td. 81, a sylwais ar Offeriad tua gwaelod td. xxiv., a Vicarft yn lle Vicarft ar dud. 199. Llongyfarchaf Mr. Williams, a Mr. Jones, yn galonnog iawn, a diolchaf am gyfrol sydd yn orchestwaith diamheuol, yn gofadail i ddyfalwch ac amynedd eithriadol, yn gynnyrch ysgolheictod gadarn, ac yn sail pob ymgais bellach am oleuni newydd ar ddatblygiad celfyddyd Cerdd Dafod Gymraeg. Prifysgol Dublin. J. LLOYD-JONES. DAVID JENRINS: Er Cof am yr Athro D. Jenkins, Mus.Bac. (Cantab); gan Naw o'i Gydnabod. Swyddfa'r Brython, Lerpwl. 2/6. Daeth yn ffasiwn i gofiannu Cerddorion yng Nghymru, a ffasiwn gymer- adwy gan lawer ydyw. Wedi cael Cofiant i Ieuan Gwyllt a John Ambrose Lloyd, Joseph Parry, D. Emlyn Evans, John Thomas, ac eraill, daeth cyf- lawnder yr amser i osod David Jenkins hefyd yn oriel yr anfarwolion. Dichon bod eraill ar y ffordd, Eleazar Roberts, Wilfred Jones, Caradog Roberts, Daniel Protheroe, rhai o'r arloeswyr a rhai o'r medelwyr. Syn i lawr fydd eu hat- gofio bod David Jenkins wedi cadw noswyl er 1915; ond gwell hwyr na hwyr-