Bywyd. "Y mae yn aros Ffydd, Trefn, Bywyd, y tri hyn; a'r mwyaf o'r rhai hyn yw Bywyd." Ystrydebol hwyrach yw dweud bod y gyfrol hon yn un am- serol." Oblegid mewn amser y daw pob cyfrol allan Ond am- serol iawn yw hon ar y fath destun, yn yr ystyr na fedr un Cyfun- debwr oedi ei meddu a'i hefrydu, pan ofynnir barn yr Henadur. iaethau ar y drafft o Fesur Seneddol tuag at gorffori'r Cyfundeb; a phan yr ydys o fewn pum mlynedd i ddathlu daucanmlwyddiant geni Methodistiaeth Cymru. Anodd deall heddiw ond yng ngoleuni doe; ac y mae'n rhaid wrth wybodaeth am ddoe a heddiw i baratoi'n deil- wng ar gyfer yr yfory mawr Etyb y llyfr hwn ei bwrpas yn rhag- orol. Y Bala. T. R. JONES (Clwydydd). Y LLAWR DYRNU Naw stori fer. Gan R. G. Berry. Gwasg Aber-. ystwyth. 3s. 6c. Praw go dda ar werth darn o lenyddiaeth yw bod calon y sawl a'i darllenodd unwaith yn dychlamu wrth daro arno eilwaith ar ôl rhai blynyddoedd. Caiff llu, fel y cefais innau, y profiad hwnnw wrth gydio yn y gyfrol hon. Bu rhaid i fwyafrif y straeon hyn fynd i'w cyhoeddiad cyntaf fel y mwyafrif pregethwyr Methodus, gan letya gyda blaenoriaid yn cadw mis. Ym misolyn,-neu yn foatfoty'r diweddar Syr John Morris- Jones y lletyodd rhai ohonynt,-ty a wnaethpwyd yn anghyfannedd gan stormydd y rhyfel-" a'i le nid edwyn ddim ohono ef mwy." Lletyodd y gweddill ohonynt yn hafoty'r Athro W. J. Gruffydd, sydd eto ar ei sylfeini, ac yn gyrchfan cwmni diddan. Gollyngais ochenaid o ddiolch y munud yma mai ysgrifennu yr wyf, ac nid siarad; oherwydd pe dywedaswn y geiriau yn hafoty fel hyn oddi ar llwyfan, cawswn fy nghamfarnu tfel un yn difrio'r BEIRNIAID a'r LLENOR; ond mae'r geiriau mewn argraff yn dangos yn eglur ddigon nad yw'r llythyren n yn cael ei dyblu, a gwneir fy niniweidrwydd innau yn amlwg. Ond bellach, wele'r straeon yn un teulu yn eu ty ardrethol eu hun- ain,­-plas bychan a'i liw o las y ffurfafen, a phopeth yn ddymunol o'i ddeutu. Fel y naw awen ar drumiau Helicon, yma y preswyliant o hyn allan, a'u croeso a'u bendith yn ddibrin i'r sawl a eilw heibio iddynt. Mae stori yn debyg i dafarn. Try rhai i dafarn er mwyn y ddiod, try eraill iddi er mwyn y cwmni. Try rhad i nofel er mwyn y ddiod; a'r ddiod yw'r stori. I'r dosbarth yma o ddarllenwyr rhaid i'r stori fod yn gyffrous; a phan ymgynhyrfo'n iawn, bydd y digwyddiadau yn dilyn ar garlam ar sodlau'i gilydd, a'r darllenydd druan, â'i wynt yn ei ddwrn, ar sodlau y rheiny. Pobol y ddiod, yn yr ystyr yma, yw mwyafrif mawr y dorf gynyddol sydd yn cerdded ôl a blaen i lyfrgelloedd cyhoeddus mawr a mân y deyrnas â dim ond nofelau o dan eu ceseiliau o ddechrau blwyddyn i'w diwedd. Nofel newydd yw hi wrth gwrs bob tro, ac ynfydrwydd yn eu golwg yw darllen yr un peth ddwywaith,­y stori yw'r peth. Try eraill i nofel er mwyn y cwmni, a da gan y dosbarth hwn yw taro ar nofel a ddeil i'w hail a'i thrydydd ddarllen. Straeon i droi iddynt er mwyn y cwmni yn hytrach nag er mwyn y ddiod yw'r straeon hyn. Mae pob un ohon- ynt yn stori, mae'n wir ond nid yn llinyn arian y stori ynddi ei hun