Metaffyseg Resymegol" Bradley (y bumed bennod) a Metaffyseg Brofiadol (Emfirical Metafhysics) Alexander (yr ail bennod). Meta- ffyseg yn seiliedig ar swyddogaeth rheswm noeth sydd ganddo ym mhob un o'r teipiau hyn, a phwynt mawr ei ddadl mewn perthynas â phob un ohonynt yw eu bod yn euog o'r pechod anfaddeuol o Ddeu- oliaeth. Yn y bedwaredd bennod tfe rydd amlinelliad o'i safbwynt ei hun fel awdur. Geilw yr Athroniaeth sydd yn ddigonol yn Athron- iaeth Sythweliadol (Intuitional Philosoỳhy). Yr ydym yn bwrpasol wedi peidio â manylu ynglyn â chynnwys y gyfrol ddiddorol hon ac ynglŷn â manylion dadl yr awdur. Cyfrol i'w darllen gan bawb sydd yn cymryd diddordeb mewn Athroniaeth ydyw hon. Y mae mor hawdd ei darllen â nofel, neu o leiaf erthygl mewn cylchgrawn poblogaidd. Y mae'r arddull yn glir, a'r ddadl yn fyw- iog o ddechrau'r gyfrol hyd ei diwedd; ac y mae'r awdur yn ein cyn- orthwyo i sylweddoli mae bodau meidrol, wedi'r cyfan, ydoedd Brad- ley ac Alexander, ac eto, hyd yn oed ar ôl darllen Mr. Holmes, meth- wn (os hefyd yn cydweled â'r beirniad) â chyhuddo y meddylwyr mawr uchod o ddim mwy na choleddu ohonynt y pethau ofnadwy hynny a elwid yn ragdybiaethau." Tybed a oes modd osgoi'r peth- au hyn yn hollol pan geisir ffurfio cyfundrefn a amcana gynnwys dehongliad o broblemau eithaf y cyfanfyd? Darllener y gyfrol hon; y mae'r ddwy bennod gyntaf yn arweiniad at bethau mawr; ysgog- ant a chynhyrfant y darllenydd i feddwl drosto'i hun, ac nid rhyfedd chwaith os arweinia ef i gydio neu i ail-gydio yn y ddau magna ofera feirniedir ynddi mor llym. Fel y mwyaírif o feirniaid llym a brwd- frydig y mae'r awdur ei hun yn lled agored i feirniadaeth, ac y mae o'r pwys mwyaf, ni gredwn, benderfynu a all ef gyfiawnhau teitl ei lyfr, sef, Athroniaeth Heb Fetaffyseg." PH. J. T. THE PRINCIPLES OF THEOLOGY An Introduction to the Thirty- Nine Articles By the late W. H. Griffith Thomas, D.D. Long- mans, Green & Co. 1930. Y mae'n rhydd imi ddechrau'r nodiadau a ganlyn gyd â chyfeiriad neu ddau at David Mendel, a oedd yn nai i Moses Mendelssohn, yr athronydd Iddewig. Fo'i hadenwodd ei hun, pan yr adaned, yn Ioan August Neander. Hysbysai felly ei fod yn ddyn newydd yng Nghrist, ac awgrymu, efallai, mai Ioan ac Awstin oedd ei feistriaid mwy. Enwog ydoedd ym meysydd esboniadaeth y Testament Newydd a hanes yr Eglwys, a thraethai weithiau ar ddiwinyddiaeth athraw- iaethol. Efo fathodd y lled-ddiarheb a gymerth oddi ar Awstin, mai y frest a wna'r diwinydd." Amlwg yw arlliw'r teimlad ar lawer o'i weithiau. Ond mynych y clywir y gosodiad ystrydebol hwn o enau rhai ni wyr ddim oddi wrth helaethrwydd ei ddysgeidiaeth ef, chwaethach Awstin ei hun. Tebyga'r cyfryw fod y frawddeg hon, fel ebychiad Ffestus am lawer o ddysg Pawl, yn oracl o gollfarn ar ddysgeidiaeth ddiwinyddol, yn amgen eneiniad hwyl neu enyniad nwyd, ar wahân i efengylydd, hepgor dysg. Nid cwbl annhebyg i Neander mewn diwydrwydd meddyliol, nac yn amrywiaeth cyrhaedd- iadau, na'i ymagweddiad tuag at esglwysyddiaeth offeiriadol ar y naill law, a beirniadaeth anianol ar y llaw arall, oedd y Prifathro yr adolygir ei waith diwethaf yr awrhon. Nodwedd ymdriniaeth Neander ar hanesiaeth eglwysig ydoedd priodoli lledaeniad Cristionogaeth, a datblygiad ei hathrawiaethau­