hyny yw, Athroniaeth fel y syniwn ni am y term heddiw-Abhroniaeth o'i gwahaniaethu oddi wrth y gwahanol wyddorau anianol. Y mae hyn yn wir mewn ystyr eang, oherwydd y mae'n arferiad bellach i ystyried Athroniaeth tfel yn cynnwys Rhesymeg, Moeseg, Estheteg, Meddyleg, etc, — efrydiavi a gyferbynnir â Mathemadeg, Seryddiaeth, Anianeg, Ftferylleg, &c. Ond yr .hyn sydd yn bwysig i'w bwysleisio mewn perthynas â'r ymdriniaeth bresennol yw fod i Ffetaffyseg erbyn heddiw ystyr gyfyngach na'r ystyr Aristotelaidd. Cyn Aristotl fe geir Plato yn disgrifio Athroniaeth fel yr ymdrech i ddarganfod hanfod (essence) pethau-y rialiti gwirioneddol tu ôl i bob ymddangosiad ac oddi tano; a bron na ellid maentumio bod y term Metaffyseg, yng nghwrs hanes Athroniaeth, wedi dyfod i olygu'r hyn a olygai Plato wrth Athroniaeth yn y disgrifiad uchod. Deil Athroniaeth fod a wnelo hi â phroblemau dyfnaff ac eithaf bywyd-problemau megis ystyr Bod a Gwybod,* natur y Rialiti sydd y tu ôl i ffenomena, a damcaniaethau am Dduw, yr Enaid, ac Anfarwoldeb. Gellir cyfrif astudiaeth o'r rhain fel yn cyfansoddi cangen o Athroniaeth, a'r gangen honno ydyw Metaffyseg. Y mae Athronaeth yn derm ehang- ach, ac, fel y sylwasom, y mae iddi hi nifer o ganghennau eraill. (Gwêl y bennod gyntaf yn llyfr J. S. Mackenzie, Elements of Metafhysics). I ddychwelyd at lyfr Mr. Edmond Holmes, y mae'n amlwg bod Metaffyseg i'r gŵr hwn yn golygu rhywbeth gwrthun dros ben, neu ynteu prin y buasai'n dadlau dros ei hesgymuno o gymdeithas wresog yr efrydiau Athronyddol. Y mae'n amlwg hefyd na olyga ef nad oes hawl gan Athroniaeth i wneud ymchwiliad i mewn i broblemau eithaf bywyd. Yn wir, fe ddeil yn bendant fod a wnelo Athroniaeth â phob math ar Brofiad — profiad drwy'r synhwyrau, profiad drwy'r meddwl, a'r teimlad a'r ewyllys, a phrofiad ysbrydol ac uwchfodol. Beth, felly, a gyfrif am ei wrthwynetbiad i Fetaffyseg (a bron na alwem y peth yn elyniaeth tuag ati) ? Yr ateb gorau a fedrwn ei gyn- nig i'r cwestiwn uchod yw fod Mr. Holmes wedi llwyr golli ei am- ynedd â dau o blith y gweithiau mwyaf titanaidd mewn Athroniaeth ddiweddar ym Mhrydain, sef, Appearance and Reality gan F. H. Bradley, a Space, Time and Deity yr Athro S. Alexander. Yn y naill fel y llall o'r gweithiau hyn fe wêl ein hawdur ymdrech ymffrostgar i ddehongli ystyr y cwbl o Fywyd trwy gyfrwng ac offerynoliaeth un elfen yn unig o'r bersonoliaeth ddynol, a'r elfen honno yw rheswm pur, yn ceisio gweithredu yn hollol annibynnol ar bwerau eraill, megis sythwelediad, a theimlad, ac ewyllys, — pwerau sydd yn alluog, bob un ohonynt, i'n harwain at wirionedd. Y mae hon, wrth gwrs, yn ddysgeidiaeth adnabyddus a chymeradwy hefyd. Y mae'n rhaid cyf- addef bod meddwl (Thought) yn llawer mwy na rheswm (Intellect), a bod dyn, fel y dywaid Mr. Holmes, yn gallu meddwl yn deimladol, ac yn ewyllysiol yn ogystal ag yn rhesymol neu ddeallol. Ond fel y dywedasom eisoes, gresyn bod ein hawdur yn nheitl ei lyfr yn aw- grymu o leiaf bod Metaffyseg fel oangen bwysig o Athroniaeth o dan gondemniad, er mai'r cyfan a olyga yw bod ymgais y rheswm pur i draethu'r gair olaf ar fywyd a phroblemau eithaf bywyd yn ddiwar- ant. Ni phetrusa feirniadu dynion o faintioli Bradley ac Alexander; beirniada hwynt yn llym, ac fe ymddengys ei fod yn gallu malurio eu gweithiau mawreddog a chlasurol yn hollol ddidrafferth. Y mae'n wir y gwêl hetfyd yn yr hyn a eilw yn Fetaffyseg Boblogaidd (testun ei drydedd bennod) yr un gwendid ag a gondemniai yn *Y mae termau hefyd a ddisgrifiant efrydiau ynghylch natur Bod a Gwybod, sef Ontaleg ac Epistemoleg.