PEDEIR KEINC Y MABINOGI, gan Ifor WilUams, M.A., lvi., 336 tdd. Gwasg Prifysgol Cymru. 8/6. Y mae Gwasg Prifysgol Cymru eisoes wedi profi ei gwerth dir- fawr i efrydiau Cymraeg drwy gyhoeddi, ynghyd â llawer o lyfrau eraill, lawlytfrau hylaw a rhagorol gan athrawon ac ysgolorion Cym- raeg y Brifysgol. Nid esgynnodd ysgolheictod ym mhynciau'r iaith erioed cyn uched ag yn y blynyddoedd diwethaf hyn, a cheir ei ffrwyth toreithiog yn yr amryw argraffiadau o hen lawysgrifau a llyfrau gyda rhagymadroddion a nodiadau diamheuol wych gan y gwyr cymhwysaf i wneuthur hynny yn y wlad ac yn y byd. Mentraf ddywedyd yn glir a chroyw na chyhoeddodd y wasg hon ddim gwell na'r gyfrol hon gan Ifor Williams, ac y mae'n amheus gennyf a ellid llawlyfr rhagorach a chyflawnach ar unrhyw destun mewn unrhyw iaith nag a roes fy nghyfaill y tro hwn. Ceir ynddi gnwd cyfoethog ei adnabyddiaeth o'r hen lenyddiaeth, ei stôr o eng- hreiffti.au o hen eiriau a chystrawennau a'i gasgliad o tfanylion a chyf. eiriadau at bopeth a ysgrifennwyd arnynt gan eraill. Ni allesid cael neb cymhwysach nag ef at y gorchwyl hwn, oherwydd heblaw ei wy- bodaeth eang sydd yn gynnyrch blynyddoedd o gasglu a chwilio, y mae ganddo reddf arbennig a gynorthwyir gan ddychymyg byw, i ddatrys problemau anodd ein llenyddiaeth gynnar. Yn y Rhagymadrodd ymdrin â pherthynas y llawysgrifau, cyfnod cyfansoddi'r Pedair Cainc, ac ystyr y term Mabinogi. Amserir y Pedair Cainc yn eu ffurf orffenedig yn gynharach nag a wnaethpwyd gan neb o'r blaen. "Y ddamcaniaeth sy'n ateb i'r ffeithiau yw ddarfod i wr o Ddyfed uno hen chwedlau Gwent, Dyfed, a Gwyn- edd oddeutu 1060, pan oedd y tair gwlad yn un. Chwanegwyd y cyf- eiriadau at y Trioedd yn ddiweddarach. Barn Nutt yw bod y Pedair Cainc yn gynnyrch cyfnod Gruffydd ap Cynan (1075 — 1137), a Rhys ap Tewdwr (1070 — 93) ni allant fod yn hyn nac yn ddiweddarach nag ail hanner y τгfed ganrif, medd yr Athro Loth. Ond nid yw'r naill gyf- nod na'r llall yn 'gweddu cystal â thymor bri Gruffydd ap Llywelyn (Rhagym. xli.). Cesglir hyn ar bwys ystyriaeth o bwyntiau orgraff, y trioedd, y bywyd a'r arferion cymdeithasol a bortreadir, a'r am- gylchiadau hanesyddol mwyaf ffafriol i'w hysgrifennu, ac ymddengys yr ymresymiad, yn enwedig yn hanesyddol, i mi yn eithaf teg. Ar bwysigrwydd stlys a stryw yn Pen. 6 am ystlys ac ystryw dylesid efallai sylwi ar gael ac stryw yno, h.y., nid y ffurf ar y cysylltiad a ddisgwylid o flaen cytsain ddechreuol, ac yn fy marn i datblygasai'r y amorganig yn y cyfryw eiriau cyn yr adeg hon. Cyn y gellir ffurfio barn bendant rhaid ystyried yr holl enghreifftiau a geir yn y fardd- oniaeth gynnar, ffurfiau fel ystrat B.T. 31. 25 38. 13; ystret 45. 16 (yn Cy. xxviii. 199 tr. n. 2, i'w egluro, tybir ei ddeillio o *eks-str. er gwaethaf sreth yn yr Wyddeleg); ystryw 31.26; ystle R.P. 1048.19 yst- lys 1029.2 Y mae'r ymdriniaeth â ffurf ddeusill maes yn hollol gywir, ac ni cheir ond rhyw dair enghraifft arall yn yr hen tfarddoniaeth na sylwyd arnynt, sef B.T. 44. 25 (? dileer a o'i flaen) 75. 25; M.A. 96. 1. Profi a wna hyn hynafiaeth eglur yr englynion, ac fel y dywedir ar dud. xvii. perthynant i ffurf gynharaf y chwedl. Y farn a dybiwn i yn gyffredin ydoedd eu bod yn hyn na'r chwedlau fel y maent ac na ellid pwyso dim arnynt i benderfynu amser ffurfiad diwethaf y chwedl- au. Ond dwg fy nghyfaill ddigon o brofion eraill i ategu ei syniad am adeg eu cyfansoddi. Erbyn hyn credir yn gyffredinol mai maboed ydoedd ystyr gyntaf mabinogi, a cheir yma ymdriniaeth ragorol o gyflawn ar ystyr a