rhinwedd ei natur normadol ac artistig, saif moeseg rywle rhwng gwyddor a chelfyddyd, eithr er mwyn hwylustod iaith, rhaid glynu wrth y term gwyddor yng nghwrs hyn o drafodaeth." Yn y bennod olaf (td. 114) tfe ddywedir bod moeseg "yn ymffurfio'n bedwerydd math o resymeg, sef y rhesymeg foesegol, swyddogaeth yr hon yw ym- wneud â chysondeb ymddygiad." Y mae'r satfbwyntiau a ganlyn i'w oanfod yn y drafodaeth (1) Gwyddor ydyw Moeseg. (2) Gwyddor wahanol i Resymeg er yn perthyn i'r un dosbarth o wyddorau, sef y normadol. (3) Pedwerydd math 0 Resymeg ydyw Moeseg. (4) Nid gwyddor mo Foeseg, eitfir rhywibeth rhwng gwyddor a chelfyddyd. Ni feddyliwyd allan yn drylwyr ystyr gwyddor na pherthynas y gwyddorau â'i gilydd ac ag athroniaeth, fel y dengys y bennod olaf; ac y mae'r hyn a ddywedir am Resymeg (td. 114) wedi ei wneuthur bron yn gwbl ddiystyr gan ddatblygiadau diweddar y wyddor honno. Y mae hefyd gryn aneglurder yn y driniaeth ar ystyr Ymddyg- iad." Cyfyngir y gair ymddygiad i weithredoedd gwirfoddol, h.y., peth gwirfoddol ydyw ymddygiad, a pheth tautological ydyw diffinio Moeseg fel gwyddor ymddygiad gwirfoddol; oblegid nid yw hyn yn ddim amgen na'i ddiffinio fel gwyddor gweithredoedd gwirfoddol. Petrusa barn Mr. Evans rhwng gwahanol ystyron Ymddygiad." Sonia (td. 35) fod ymddygiad mor gyffredinol â bywyd, a chyfeiria at McUougall gan sgrifennu "Cynhwysa'r cyntaf (sef conduct) 'at ymddyg- iad dyn, a'r ail (sef behaviour) at ymddygiad anifail." Awgryma hyn dri ystyr o leiaf .i'r gair, sef (1) holl symudiadau dyn ac anifail; (2) holl weithredoedd bodau dynol; (3) gweithredoedd gwirfoddol. Ychwanegir yn ddiweddarach Cyflawna'r llafurwr ddyletswyddau ei alwedigaeth yn ddigon gwirfoddol, h.y., y llafurwr y mae ganddo gydwybod a synnwyr anrhydedd, ond nid ystyrir hynny'n ymddyg- iad moesol fel y cyfryw (td. 38, 39). Darllener y paragraff i gyd, ac fe welir bod Mr. Evans yn gwrthddywedyd ei osodiadau blaen- orol, a therfynu'r drafodaeth ar y pwynt hwn drwy ysgrifennu, Os cywir y safbwynt delfrydol hwn — sef bod i bob gwirfoddolrwydd ei werth moesol-yna y mae ymddygiad dynion cyfrifol gyfled â'u holl fywyd ac yn helaethach na thair rhan o bedair Arnold." Nid yw'n bosibl llunio theori gyson o'r hyn a ddywaid Mr. Evans am ymddyg- iad. (Onid Novalis ac nid Mill a biau'r ymadrodd a comfletely fashioned will," td. 47?) Trinir y Rhinweddau ym Mhennod iv. o dan 2 bennawd, (i.) Prif Rinweddau, (ii) Rhai rhinweddau eraill; a rhennir (ii.) i (a) dair o'r rihai cyffredin, a (b) phedair o'r rhai Cristnogol. Wrth egluro a beirniadu athrawiaeth Aristoteles am y Canol (tnean) aeth yr awdur ymhell ar grwydr. Ar wahân i'r ffaith ei fod yn ailadrodd beirniadaeth gyfeiliornus Kant ar yr athrawiaeth, y mae'n cynnig tfel beirniadaeth ychwanegol y gosodiad nad oes dichon cael gormod o ddoethineb, y dymuniad am y da, y dymuniad am wir ddedwyddwch. Y mae'r ymadrodd yn un cywir eithr nid yw'n cyffwrdd ag athrawiaeth Aristoteles am y Canol. Fe ddywaid Aristo- teles yn ddigon pendant mai at nwydau a gweithredoedd yn unig y gellir cymihwyso'r mean, — mewn geiriau eraill, â'r rlhinweddan moesol y mae a fyníno'r mean; eithr am y petbau a nodir gan Mr. Evans, perthyn doethineb i'r rhinweddau deallol, ac nid oes a fynno'r mean & hwy, ac nid nwydau a gweithredoedd yn ystyr Aristo-