ydyw'r rhain nes ei bod yn anodd dethol esiamplau, a chollent, bid sicr, gryn lawer wrth eu trosi i iaith arall. Y mae ynddi ystôr o hanes am fudiadau pwysig a byd-eang. A heblaw hanes ceir dyfyniadau o weithiau dysgedig yn datgan barn ar wahanol bynciau. A cheir barn y Deon ei hun, ac nid gwerth 'byohan a rydd neb a ystyrio ar farn gwr mor ddyfnddysg a duwiol- frydig ag ef. Cynorthwyir ni drwy'r moddion hyn i ffurfio ein barn ein hunain ar bynciau moesol y dydd. Ac er inni betruso galw'r llyfr hwn yn Uyfr mawr, nid oes amheuaeth nad ydyw yn un o'r llyfrau gwerthfawrocaf a mwyatf buddiol a ymddangosodd yn ddi- weddar. Aberystwyth. W. JENKYN JONES. MOESEG. Gan y Parch. James Evans, M.A. tt. vii.-f 141. Cyfres y Brifysgol a'r Werin. Pris, 2/6. Y cynnig hwn o eiddo'r Parch. James Evans ydyw'r cyntaf yn Gymraeg-hyd y gwn i­-i drafod Moeseg yn unol â nodwedd wyddonol y dyddiau hyn," ac nid yw'n rhyfedd gan hynny i'r awdur deimlo'i ibod yn anodd i'r Gymraeg barablu'n groyw yn y gangen hon." Cynnwys y llyfr y penodau a ganlyn (1) Nodweddion a Thyf. iant Dyn; (2) Moeseg a'i Hefrydiaeth; (3) Ystyr Ymddygiad; (4) Y Rhinweddau; (5) Prif Broblem Moeseg; (6) Y Daioni Pennaf (7) Moeseg a Gwyddorau eraill. Ychwanegir atynt gyfeiriadau at aw- duron (a fyddai'n tfwy hwylus o lawer ar waelod y tudalennau lle'r enwir hwy), Llyfryddiaeth, Geirfa, a Mynegai. Y mae brawddegau anffodus iawn yn y Rhagymadrodd ynglŷn â Llyfryddiaeth. Ebr yr awdur, O'r llyfrau a enwir try- chinebus i'r eithaf fuasai i neb ddarllen y cwbl oll. Y mae'r fath beth yn bod â diffyg traul meddyliol" (td. iv.). Efallai mai smalio'r oedd Mr. Evans, ond bid a fynno am hynny, y mae'n anffodus ddigon. Fe ddylai pawb a fynno drin y pwnc o ddifrif ddarllen y cwbl a gynnwys rhestr Mr. Evans, a llawer iawn heblaw'r rhai hynny. Y mae'r cyngor yn amlygu anghrediniaeth yn y rheswm dynol, ac yn achlesu'r diffyg trylwyredd hynny mewn ysgolheictod wnâ waith Athroniaeth yn ddiystyr o'i gychwyn cyntaf. Efallai nad yw'n ormod dywedyd i Mr. Evans yn y geiriau hyn roddi mynegiant i ddiffyg mwyatf sylfaenol y llyfr. 'Cychwynnir y drafodaeth drwy fwrw golwg ar nodweddion a thyfiant dyn," ac y mae grym y sylwadau'n troi o gwmpas y greddfau a'r lled-reddfau, .gan fanylu ychydig ar y reddf heidgar, awgrymiad, dynwarediad ac arferiad. Y mae Mr. Evans yn dibynnu bron yn gytfangwbl ar Social Psychology McDougall. Y mae darnau mawr o'r bennod nad ydynt yn ddim namyn cyfieithiad neu aralleiriad o frawddegau McDougall. Ni ddengys y bennod ond y nesaf peth i ddim o ddylanwad y datblygiadau aruthrol sy'n cymryd lle'n feun- yddiol mewn Eneideg, ac ni allwn lai na theimlo na fu excursion Mr. Evans i Eneideg yn llwyddiannus iawn gogyfer â phwrpas nodwedd wyddonol y dyddiau hyn." Y mae cryn ansicrwydd yn y drafodaeth ar Foeseg a'i Hetfryd- iaeth." Rhennir y gwyddorau i'r (a) Disgrifiadol a'r (b) Normadol. Gosodir Moeseg yn yr olatf, a deffinir hi i gychwyn fel Gwyddor ymddygiad gwirfoddol gan bwysleisio'r elfen wirfoddol. Ndd yw'r hyn a ddywedir am y gwyddorau normadol yn glir, a gwahaniaethir rhyngddynt ar sail sydd yn gwbl gytfeiliornus. Ysgrifennir yn