RHAI LLYFRAU DIWEDDAR AR DDIWINYDD- IAETH. YN ystod y ganrif ddiwethaf, mwy neu lai, bu'r Beibl, neu'n hytrach dehongliad y Beibl, yn y pair. Y mae Diwin- yddiaeth Gristnogol wedi ei seilio'n gadarn ar y datgudd- iad o Dduw a roddir yn yr Ysgruthur, ac felly o angen- rheidrwydd effeithir ar yr Athrawiaeth gan unrhyw newid yn syniadau dynion am yr Ysgrythur ei hun. Am gyfnod hir, fodd bynnag, bu ysgolheigion Cristnogol mor brysur gyda phroblemau Beirniadaeth Feiblaidd fel mai ychydig o sylw a delid i'r cyfnewidiadau a fyddai raid ddilyn ym maes Diwinyddiaeth. Erbyn hyn gallwn fforddio gadael Beirniadaeth Feiblaidd a symud i ail-adeiladu'r Athraw- iaeth Gristnogol. A chanlyniad hyn yw y gwelir tuedd gref yn y llyfrau diweddar ar Athrawiaeth i beidio â chadw'n rhy glos at y dulliau traddodiadol o drin y pwnc, ac i ganiatáu casgliadau y buasai cenhedlaeth hyn yn dychryn rhagddynt. Hyd yn oed ymysg yr ysgol Anglo- Catholig gwelir y rhyddid hwn yn y gwaith pwysig a wnaethpwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn benhaf gan yr adran honno a adwaenir fel y Catholigion Rhydd- frydig. i. Ceir enghraifft dda o'r newid osgo at y Beibl yn y gyfrol Authority of the Beibl gan C. H. Dodd (1928). Am y syniad o anffaeledigrwydd yr Ysgrythur dywaid, Ni cheisiodd neb o feddwl pwyllog erioed ei roddii mewn gweithrediad gan ddilyn rhesymeg fanwl. Y mae pawb, naill ai wrth reddf neu o fympwy, yn dewis y peth yma ac yn gwrthod y llall, ac yn pwysleisio'r hyn a fynn ef; a gall pob un ddarganfod ffordd o gysoni gwrthddywed- iadau ac o fychanu anawsterau trwy ddefnyddio dull ale- gorîaidd o esbonio neu drwy ddal nad yr hyn sydd ar yr