EFENGYL IOAN. I.-X. Gyda Nodiadau Eglurhaol. Gan y Parch. Stephen George, M.A., Llandrindod. Td. 240. Pris 3/6. Caernarfon Llyfrfa'r Cyfundeb. Canys wrth ystyried anfeidrol rifedi y Üyfrau, a'r dyryswch y maent hwy yn ei gael sydd yn chwennych myned drwy draethawd yr histori, oherwydd amlder y materion; nyni a gymerasom ofal ar gael o'r rhai a ewyllysient ddarllen, ddiddanwch, a bod esmwythdra i'r rhai a chwenychent gofio, ac i bawb a ddarllenent gael budd. Am hynny i ni, y rhai a gymerasom arnom y drafel flin hon i dalfyrru, nid esmwythdra oedd, ond gwaith a wnaeth i ni chwysu a gwylio." Felly sgrifennodd awdur ail lyfr y Macabeaid am faich ac amcan ei dasg. Gwasgai bum llyfr hanes Jason o Cyrene yn un gyfrol. Priodol dyfynnu cyffes yr Helenist anhysbys hwnnw uwchben y nod- iadau a ganlyn ar rai o ragoriaethau a nodweddion gorchestwaith Helenist Llys Caron ar lannau Ithon. Ond cofier mai chwarae plant yw gorchwyl y talfyrrwr wrth ludded yr esboniwr, serch darfod cynnig gwobr mewn eisteddfod ym Môn yn ddiweddar am duchan- gerdd i'r olatf. Iawn galw Stephen George hefyd yn Helenist. Nid yn unig oblegid medru ohono Roeg, fei Paul, er maint ei ochelgarwch rhag auotìo 'r gwreiddiol, a'i gyhuddo felly gan ei leferydd. Efo yw'r Groecaf ei enw, ond odid, o holl Genhadon Hedd y Corff. Nid gweniaith fuasai dodi uwchben yr ysgrif hon, Coron Amaeth," sef yw hynny Stephanos Georgiou yn Gymraeg. Ni fyfyria neb yng nghynnwys toreithiog y Llawlyfr hwn heb oddiweddu'r hyfrydwcb triphlyg a ddymunai'r Helenist Apocryffaidd ei arlwyo d'w ddarllen- wyr. Canys caiff holl ddeiliaid hynaf ein Ysgolion Sabothol ddi- ddanwch yn llyfnder dudlwedd y llyfr, esmwythdra oblegid eglurder yr ymdrafodaeth, a budd oherwydd gwerthfawredd y ddysgeidiaeth. Er blined y cystudd a rwystrodd yr awdur diymhongar y llynedd, go brin y cenfydd y beirniad craffaf ballu o'd ddawn ei ddeall na'i ym- adrodd mewn un iod nac un tipyn. Ni ellir peidio â gofidio oher- wydd Uuddio iddo barhau fel y dechreuodd; ond llawenheir oblegid y praw newydd a roes ysgrifennydd athrawaidd y nodiadau ar y ddegfed bennod o'i aeddfed fedrusrwydd yntau, ysgolhaig na chawsid ei barotach i ymaflyd yn yr awenau ystwyth a ollyngwyd. Dyry y gŵr o Dregaron achlysur inni gymhwyso ato eiriau diwedd Proilog Jesus fab Sirach hetfyd, a'i longyfarch ar gaffael o'i amynedd ei pherffaith waith Mi a ymroddais drwy .fawr anhunedd a chyf- arwyddyd yr amser hwnnw i ddwyn y gwaith i ben." Llusern yn llosgi ac yn goleuo yw'r gyfrol ddestlus a phrydferth hon. Gwelir ei golau heb glywed aroglau'r olew. Canys ynddi yr amlygir gwybodaeth fanol yr efrydydd eiddgar, meddwl dosbarthus yr athro hyfforddus, parabl croyw'r pregethwr gafaelgar, a chyf- lawnder anogaethau'r cynghorwr bugeiliol. lawn y'n hanogai i gofio Ecs. iii. 5. Nid perth ydyw yr Efengyl hon y mae ei dyryswch i ddenu chwilfrydedd cywrain i geisio darganfod ei harwediiiin gudd. iedig (clue). Sanctaidd yw'r ddaear yr ydym yn sefyll arni. Llysg y berth, heb ei difa drwy ballu o'i sylwedd, na'i diffodd gan awelon dysgeidiaeth. Chwythu'r fflam yn gryfach a wna'r rhadn. Hynod yw sense of frofortion y dehonglwr. Nid ymrwystra â gwag neges- euon y manylion nes peri ebargofi ei ddiben. Nid ei deithi rhes- ymegol yw unig achos y cymesuredd canmoladwy yma, ond yn hyt- rach ei ymdeimlad o bwysigrwydd hanfodion yr Efengyl Ysbrydol." Ynglyn â hon, yn anad yr un ysgrythur arall o'r Testament Newydd, rhaid i'r esboniwr a'r disgybl ill dau gadw eu golwg yn ddiwyro ar