Wrth 'gwrs, trychineb cynnar ei febyd oedd colli ei olwg ac eto, wrth dremio'n ôl, ni wyddom ai anfantais ddigymysg a tfu hyn iddo. Y mae'r cofiannydd yn hollol gywir pan ddywaid mai meddwl chwim •ei dad a hunaníeddiant tawel urddasol ei fam a fu'n sail i'w gymer- iad; ond tybiem ni, y rhai a'i haedwaenai'n dda ym more ei oes, ei fod yn derbyn rhyw adnoddau diderfyn o'i hunan-ymwybyddiaeth a'i fyfyrdod dwys ar drysorau cudd byd meddwl ac ysbryd. A phan gofiom ei amddifadu o'i olygon, y mae ei lwyddiant ym myd addysg yn rhyfeddod. Llenwir y cofiant gan ffeithiau lawer wedi eu casglu yn fanwl a'u hadrodd yn gywir. Mi gredaf nad oes yma ormod ohonynt, canys derbyniant ystyr newydd a diddorol oherwydd y tafiant olau ffres ar lwybr "gwr dall." Gallaf ddwyn tystiolaeth i gywirdeb hanes cýfnod ei ysgol a'i goleg, a chyfyd eu darllen lu o atgofion melys dyddiau yr hen ddedwyddyd yn fyw yn fy mron. Ni welwyd neb mor llawn o chwerthin ac o lawenydd calon. Fel ym mhob peth arall, yr oedd yn chwerthin o dd`ifrif nes bod ei gorff yn ymnyddu'n ddolennau. Dywedodd un o'i ffrindiau fod defaid yr Aran yn codi eu pennau i synnu pan glywent chwerthin Puleston ar lan Llyn Tegid mewn pellter o rhyw ddeng milltir. Er hynny, ynghanol holl asbri rhialtwch dilywodraeth ei ysbryd, gwyddem yn sicr fod yn rhaid iddo fod yn bregethwr, ac nad oedd Ie arall priodol iddo i wneud gwaith mawr ei fywyd ond yn y weinidogaeth. 0 dan ei holl ysmaldod naturiol yr oedd beunydd beunos mewn cyffyrddiad agos â gwirioneddau ysbrydol a fu'n sail sicr i'w ffydd a'i obaith yn .ystod holl dreialon ei fywyd llawn a phrysur. Nid oes dim byd gwell yn y cofiant hwn na'r dull medrus y dilynir tyfiant ei gymeriad a natur ei bregethau a'i gynghorion ond ni cheisiaf eu holrhain yma. Dyn addfwyn a llednais, y mae'n wir, ond cadarn a diotfn a chryf ei argyhoeddiad oedd Puleston ar hyd ei oes. Amhosibl iddo ef oedd newid egwyddor am na phres na phoblogrwydd. A fu rhywun erioed yn fwy annwyl yn serch ei wlad? Yr oedd ei dysteb yn destun syndod, pawb yn cyfrannu iddi o fodd ac nid ystyriai llawer cybydd hi yn faich; a chododd Prifysgol Cymru ar flaenau ei thraed wrth ei anrhydeddu â'r radd o Ddoethur mewn Diwinyddiaeth. Ac ar y diwedd oll, yr oedd wyneb Cymru gyfan yn wlyb gan ddagrau gofid. Sicr ydyw fod ei fisoedd olaf yn rhamant hardd ym mywyd ysbrydol Cymru. Nid oedd angen tystiolaeth cynifer o ddynion cymwys eu barn am fawredd a gwerth ei fywyd ar ddiwedd y llyfr, y maent megis yn ail-adrodd yr hyn a wyddai pawb o'r bron. Gwell gennyf fuasai un bennod fer gryno gan yr awdur gwylaidd ar natur ei athrylith ac ansawdd ei ysbryd. Gwelir, yma ac acw, ychydig o frychau'r wasg, ond nid yw hyn ond ysmotiau bychain ar yr wyneb sy'n dangos tlysni arddull y llyfr. Hoffwn dalu mwy am y gyfrol er mwyn ei chael mewn gwisg ychydig mwy dymunol a hardd, oherwydd yr oedd bywyd Puleston mor hardd a dymunol ar ei hyd. Hawdd fyddai i mi ysgrifennu llith faith ar wr a fu'n gyfaill calon i mi ar hyd ei oes; ond nid oes angen am hynny. Llongyfarch- at yr awdur yn galonnog iawn ar ei waith llwyddiannus yn rhoddi portread mor hyfryd inni o gymeriad a gwaith gŵr a oedd yn dywysog ym mywyd ei wlad. Ofna llawer fod Cymru yn llithro yn raddol yn y dyddiau hyn i ryw fath o fateroLiaeth, ac ni allaf syniad .am well cyngor i ieuenctid Cymru na darllen y cofiant hwn. Yr oedd Pullteston yn ddyn mor fawr, yn ddarn o'r byd ysbrydol, yn gennad -dros Dduw i'w oes a'i genedl. Aberystwyth. EDWARD EDWARDS.