beth o'i flaen, gyda'r ddwy Lanrhaiadr (Cinmeirch a Mochnant), td. 163; ac wrth sylwi ar yrfa droeog Richard Rowlands o'r Aber. ffraw, sicrach yw dilyn y Tanner MS. xlv na'r Mona Antioua. Nid yw'n debyg y siglir byth brif golofnau'r gwaith, gan i'r awdur fyned at y ffynhonellau pura'n bosibl iddo-y cofnodion swyddogol sydd dan ei warchodaeth ef ei hun, a'r cadarnhad cyferbyniol iddynt yn y Record Office. Dylai pob Methodist ddarllen y Rhagair (xi.­lxxxviii.) drwodd a thro, yn enwedig y grynodeb a rydd yr awdur o atebion yr offeir- iaid i'r Esgob Pearce yn 1749 (xlix.­li.), Ue y gwelir yr argraff a wnaethpwyd ar Wynedd gan Howell Harris a'i genhadon cyntaf, y rhannau o'r wlad a dderbyniodd yr efengyl newydd, a'r cymydau a fodlonent i'r hen drefn ar bethau. Pwysig iawn yw'r nodiad ar waelod dalen li., ac enwau Methodistaidd go ddieithr yn hanes Methodistiaeth. Dylai awdurdodau'r Cylchgrawn Hanes osod eu gwydrau ar hwn ac ail-fanylu ar adroddiad Visitation 1776 sydd ynghadw yn Llyfrgell Coleg y Gogledd, er mwyn craffu o ongl newydd ar adwaith yr ymraniad rhwng Harris a Rowlands ac ar asbri'r hen seiadau'n dod i ail-fywyd ar ôl y cymodi. Tybed eu bod yn rhy dueddol i aros gormod uwchben llawysgrifau Trefecca ? Diddorol, o sylwi ar yr adroddiadau eglwysig, yw gweled pregeth- wr o Leyn yn tyfu mewn pwysigrwydd, sef Griffith Bevan Lewis. Gwyddem o'r blaen ei fod yn ddraen yn ystlys offeiriad Llangwnadl, a hynny er 1743; yn 1749 cyhuddir ef o dramwy'r wlad yn haerllug benuchel. Cyfeiria Mr. Pryce hefyd at ddau ddyddiadur William Bulkeley o'r Brynddu ym Môn, boneddwr dreng ond caredig at y Methodistiaid. Purion o beth fyddai i haneswyr y cyfnod ddod i archwilio y rheiny; gyda'u hysgrifen fân ar un cant ar ddeg o dudal- ennau. Eglwyswr o hil gerdd yw'r cofrestrydd, a gwna ymgais deg i osod Eglwys y ddeunawfed ganrif mewn 'gwedd gymharol barchus. Nid yw'n cau un llygad, heb sôn am ddau, rhag gweled ei dwfn gam- weddau a'i haml anfanteision. Y mae'n bur drwm ar ei gwaith yn ymollwng yn ysgafala i ddilyn materolrwydd yr oes. Wrth wneud hyn, pwysleisia'r ffaith fod clerigwyr da a dysgedig mewn llawer iawn o blwyfi'r esgobaeth; a dywed fod Senex wedi gor-gondemnio rhai o hen arferion Cymru yn Nhrysorfa 1799 (lxxi.­lxxiii.). Nid oes ddadl am gymeriadau teilwng nifer mawr o'r offeiriaid. Waeth am hynny, oni thystia rhawd hanes crefydd nad yw dysg a diwyll- iant ynddynt eu hunain, na daioni diniwed a diymadferth, yn debyg i ddigon i weddnewid wyneb ysbrydol gwlad ? Ateb y diwygwyr i'r elfennau Ueol, staiic hyn oedd sarnu terfynau cysegredig y plwyfi, a goresgyn esgobaeth Bangor drwy yrru eu meirch ar garlam wyllt drwy ben uchaf Ceredigion a gwaelod Arwystli ffordd arall 0 ddweud bod y Gogledd at drugaredd y De. Peth arall: ni all diwyg- iad chwyldroadol, cyforiog o ddynamic yr ysbryd, eistedd i lawr yn ddefosiynol i dafoli rhwng drwg a da, a chyhoeddi bod ambell interliwt yn briodol i wrando arni, bod ambell gainc ar delyn yn grefyddol ddigon. Rhywbeth i ddychrynu rhagddo yw chwyldroad pwerus yn llaw pobl wedi alaru disgwyl amdano; ac nid oes dim mwy di-drugaredd na'r ffagl ysbrydol a dynion meidrol yn ei llywio. Bydd rhaid cofio'r ystyriaethau hyn wrth ddarllen geiriau dram- odol yr hen Fethodistiaid. Wrth ddwyn y paragraff hwn i ben, gob- eithiwn y bydd astudio gofalus ar y Rhagair, pe dim ond i fwyn- hau gwaith Eglwyswr gonest dysgedig yn ceisio arfer cyfiawnder at gyfnod anodd i'w ryfeddu. Serch y gofal a'r tegwch, y mae lle á gerydd neu ddau. Cam-brint am Bodwrdda yw Bodrida (xxxiv.); llawer iawn mwy o bethau da