DARNAU. I. TRWY ryw wyrth, darn dros ben, olwyn yn sbâr, wedi gorffen ailosod y cloc yn gyflawn wrth ei gilydd, ydoedd yr olwyn oedd gan W.B." gynt yn ei boced. Fel arall y bydd hi fynychaf,-darn ar goll, wedi bod yn datgymalu ac ailosod peiriant. Nid yw peth cyfan neu gyflawn, wedi'r cwbl, ond swp o ddarnau potensial, neu'n hytrach, weithiau beth bynnag, ddarn a gweddill; ond yr oedd gweddill W.B." yn gyflawn heb le i'r darn dros ben,- peth tebyg, ar ryw olwg, i olwyn sbâr cerbyd motor. Y wyrth anesboniadwy hon, yn un peth, sydd yn gwneuthur y sefyllfa'n ddigrif a gogleisiol,-a'r cloc mawr ei hun. wrth gwrs. Beth ydyw'r elfen ddigrifwch sydd bron bob amser ynglyn â chloc mawr wyth niwrnod, fel ynglyn â drwm ? Y mae'n anodd peidio â gwenu wrth ei weld neu wrth glywed a siarad amdano. Gellir cael hwyl ar ei gorn pan fynner. Efallai mai ei wyneb ysgwâr wyneb a bys- edd arno sydd i gyfrif am hyn, neu ei warnio ffyrnig a'i daro pwyllog; tebycach gennyf mai gwacter ei gorff. a guddir mor garedig o gywrain gan ei ddrws, peth mawr gwag, a drws hefyd gan gloc Y mae hyn yn sicr dodrefnyn â phersonoliaeth ganddo ydyw'r cloc mawr, a nodweddion personoliaeth sy'n creu chwerthin iach. Tystion o'r mul a'r mwnci a'r bwch gafr. Chwerthin am ein pennau ein hunain y byddwn, wrth gwrs. Gan gofio, y mae cas cloc mawr (onid yw?) yn ddarnau datodadwy. II. Pan êl peth cyflawn neu gyfan yn ddarnau y gellir eu hailddodi wrth ei gilydd fel o'r blaen, nid oes elfen drych- inebus yn yr ymddatodiad. Wrth weld y darnio, fe deimlir am foment beth o'r ysgytwad a geir wrth syllu ar ffrwydr- ad, dyweder, ond fe sylweddolir ar yr un pryd neu'n union deg nad yw pethau mor ddiobaith ag y tybid. Gellir ail-