Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Iesu Grist, — Pwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb. Dyma enghraifft o'r modd y denfyn yr awdur adref i galon a chydwybod ei ddarllenydd ieuanc y wers fawr a hanes yr hen dduwiau, fod casineb ymhob oes yn gwahanu a dinistrio, ac mai mewn cariad y mae'r unig obaith am gyfannu a gwynfydu'r byd. Llyfr difyr dros ben ydyw LLYFR y DYN Du sydd a'i bres- wyl mewn inc, ac yn gallu byw am fis ar botel inc ddwy geiniog." Straeon campus ydyw y deg a ½geir yn y gyfrol ddestlus a swynol hon. Mae'r awdur yn medru'r ffordd ar ei union i .galon plentyh, gall apelio at ei ddychymyg gyda'r rhwyddineb pennaf, a llwydda i guddio ei wers aTi gyngor heb igymryd arno ei fod yn 'pregethu nac yn "annog." Manteisiol iawn hefyd yw'r bennod ar y diwedd ar y Geiriau gwerth sylw." Gwneir gwasanaeth pwysig i blant Cymru drwy ddwyn llyfrau fel y rhain allan yn Gymraeg, mor chwaethus, mor ddillyn ac mor ddiddorol. Bydd eu darllen yn hyf- rydwch ac yn gynysgaeth i ben a chalon pob bachgen a geneth. O'R CRUD I'R PULPUD. Hanes Byrr am rai 0 Enwogion y Pulpud Methodistaidd yng nghyfnod eu maboed a'u hieuenctyd. Gan y Parch. Edward Thomas, Hen Golwyn. Caernarfon Llyfrfa^r Cyfundeb. Pris 1/6. Drychfeddwl hapus iawn ydoedd hwn o roddi hanes bore oes rhai o brif bregethwyr y Cyfundeb. Diau y sylweddolir amcan yr awdur ac y bydd i gydnabyddiaeth a hanes oes ieuenctyd y cewri hyn,-y rhwystrau a'r anawsterau orchfygwyd ganddynt,­fod yn ysbryd- iaeth i lawer bachgen yn y dyddiau hyn ymwroli a myned rhagddo. Credwn fod tuedd yn y llyfr i gynhyddu awydd mewn pobl ieuainc, os darllenant ef, i fod o wasanaeth gyda dygiad i mewn Deyrnas Dduw yn y byd, ac i feithrin delfrydau uwch mewn bywyd na chasglu arian ac ennill clod gan ddynion. Gwna les hefyd i galon rhieni, oblegid dangosir yma gymaint sydd yn gorwedd wrth eu drws hwy, a lle mor fawr sydd ganddynt, yn arbennig felly y fam, i roddi argraffiadau daionus ar feddyliau, a chyfeiriad cymwys a phriodol i ddelfrydau y plant a ymddiriedwyd gan yr Arglwydd i'w gofal. Mae'r llyfr yn un darlleriâdwy iawn. Wedi cael y gwrth- rych i'r pulpud symuda yr awdur ymlaen at y nesaf. Daw cynifer a phymtheg o bregethwyr mawr y ganrif ddiweddaf ger ein bron o'r Parch. John Elias hyd y Parch. D. Lloyd Jones, M.A. Gres- ynwn ninnau fel yr awdur ei hun na chaniatai gofod ddwyn eraill amlwg iawn i mewn, megis Thomas Charles Edwards a David Charles Davies. Ond dichon y cawn ail gyfrol ar yr un testun. THE EXPOSITORY TIMES. Edìted by A. W. Hastings, M.A., and Rev. E. Hastings, M.A. Edinburgh T. & T. Clarh. Pris iod. Dechreuir cyfrol newydd gyda rhifyn Hydref. Mae'r Nodion Esboniadol mor fyw ac awgrymiadol ag erioed. Addewir cyfres o bregethau gan wyr amlwg y pulpud, megis y Deon Inge, Dr. Hutton, Dr. J. D. Jones, a Dr. W. M. McGregor. Yn ystod y misoedd nesaf ceir hefyd ysgrifau gan Dr. Rendel Harris, Proff. A. T. Robertson, yr Archddeacon R. H. Charles, a'r Proffeswyr John E. McFadyen, J. M. Shaw, H. Wheeler Robinson, Edonard Naville a Gustaf Dalman.