LLEW LLWYFO, Y LLENOR. PRIF nanfodion llenor da yw, darganfod ei hun, creu ei awyrgylch ei hun, a gwybod fod ganddo genhadaeth at ei wlad a'i genedl. Dyna paham y rhagorodd llenorion Cymreig y ganrif fawr ddiweddaf. Clywed galwad y genhadaeth wynfyd- edig hon, tra'n dilyn eu hefrydiau yn Rhydychen ac Edin- boro, ddarfu Charles o'r Bala a Dr. Lewis Edwards; ac fel dwy long marsiandwr, daethant yn ol i Gymru yn llwythog o drysorau dysg a llen, a chyflwynasant hwy yn rhad ar allor gwasanaeth eu cenedl. Swyn yr un genadwri ddaeth at Caledfryn a Hiraethog -y cyntaf yn blentyn tref Dinbych, a'r llall yn fugail y mynydd­-ar drothwy y ganrif o'r blaen, ac a ddywedodd wrthynt am eu gwaith. Clywsant swn eu cenadwri ym murmur pob cornant, ac yn chwibaniad pob awel a chwythai dros Fryniau Hiraethog, ac yn sisialon yr Afon Aled. Peroriaeth yr un alwad ddaeth at Ieuan Gwynedd, tra yn cerdded yn blentyn i Ysgol Bontfawr, Dolgellau; ac a'i hysbysodd am y gwaith oedd yn ei aros yn llenyddiaeth ei genedl. Sibrydion hudolus angelion yr un genhadaeth ddaeth at Ceiriog, tra'n dilyn ei orchwyl fel gorsaf-feistr yng Nghaersws, a ddywedodd wrtho, Ceiriog! y machgen i; at dy waith, mae'r gloch yn galw ac heb edrych, am foment, ar daledigaeth y gwobrwy, gadawodd y rhwydi yn y fan, ac ufuddhaodd i'r alwad ogoneddus, a chyflawnodd ei genhadaeth yn gystal â'r un bardd a anwyd. Swyn yr un alwad hudodd Daniel Owen i adael Coleg y Bala am y Brif Ysgol yr oedd ynddi yn flaenorol-Siop y Teiliwr-gan wybod fod y lle diweddaf yn llawer gwell coleg iddo i astudio cymeriadau a phortreadu Rhys Lewis," ac Enoc Húws." Murmuron yr un genadwri ddaeth at Llew Llwyfo, tra'n laslanc o brentis gyda dilledydd ym Mangor, gan sibrwd wrth ei ysbryd cerddgar, Dos i fyny, blentyn athrylith! Y mae angyles Llên a Chân yn gofyn am dy