Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYTHYRAU.* H. HUMPHREYS AT MYRDDIN FARDD. Castle Square, Caernarvon, Mehefin 18, 1862. ANWYL SYR,- Yr wyf yn bwriadu dwyn allan gyhoeddiad misol, addurnedig â Darluniau, dan yr enw "Golud yr Oes: Cyhoeddiad Misol Cenedlaethol er cefnogi Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Celfyddyd, Addysg, Crefydd, a Gwladgar- wch;" a chan fy mod eisoes wedi cael addewidion gan amrai o brif lenorion ein gwlad, y bydd iddynt gynorthwyo yn yr anturiaeth trwy ysgrifenu iddo yn achlysurol ar ryw byngciau a ddewisont, neu a nodir iddynt, erfyniaf am gael yr anrhydedd o ychwanegu eich enw chwithau at y rhestr. Byddaf ddiolchgar am air oddiwrthych mor fuan ag y byddo modd, ynghyda rhyw ddernyn a fernwch yn gyf- addas i'r Rhifyn cyntaf, yr hwn y bwriedir ei ddwyn allan erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynelir yn y dref hon. Yr eiddoch yn gywir a serchog, H. HUMPHREYS. At MYRDDIN FARDD. CANON SILVAN EVANS AT OWEN JONES (Mannoethwyj* Llangían, Rhag. 17, 1861. ANWYL SYR,- Yn y gyfrol o'r Gwyliedydd (1832) y buoch gar- ediced a'i hanfon i mi, ceir tair rhan o'r Gofrestr o'r Llyfrau Cymreig" argraffedig, ac ar ddiwedd y rhan olaf y mae I'w barhau." A gyhoeddwyd chwaneg o'r "Gof- restr ? Os do, byddai yn dda genyf gael y rhifynau ereill y cynnwysir hi ynddynt, gan fy mod yn awyddus i gael y "Gofrestr" hon o eiddo Moses Williams yn gyflawn. O Gronfa Myrddin Fardd. Dilynir orgraff yr awdwyr. — Gol.