Y PARCH. DAYID DAYIES, OSHKOSH, WISCONSIN. PAN y mae cyfleusderau teithio cyflym a chysurus wedi dwyn gwledydd pell y byd yn agos at eu gilydd, ac amrywiol gyfryngau cymundeb wedi gwneud eu trigolion yn gymydogion, naturiol ydyw credu fod graddau helaeth o ddyddordeb i genedl yn eu cig a'u gwaed eu hunain wedi iddynt adael gwlad eu tadau ac ymfudo dros y moroedd. Er eu gyrru gan wahanol achosion ymhell ym mysg cenhedloedd eraill, a'u gwasgaru trwy lawer o wledydd, eto pery llinyn euraidd cenedlgarwch i'w rhwymo yn fwy neu lai týn wrth gartref eu mebyd, neu hyd yn nod gartref eu hynafiaid. Ac nid yw y Cymro yn eithriad i hyn. Anhawdd meddwl am un wlad wareidd- iedig, na nemawr i dref o bwys yn yr holl fyd erbyn hyn na cheir nifer o Gymry ynddynt; ac er eu bod yn gyffredin yn toddi i fewn yn dda i arferion eu gwlad fabwysiedig, lle yr enillant eu bywioliaeth, eto parant yn Gymry aiddgar hyd eu bedd. Mae eu calon o hyd yng Ngwalia, a phan ddaw rhai ohonynt ar ymweliad â hi o wledydd y mel a gwinllanoedd y gwin," cynhesa eu gwaed yn fawr tuagati. Canodd Ceiriog brofiad miloedd wrth ddweyd Mae nghalon yng Nghymru ple bynnag yr af." Cenir cân genedlaethol y Cymry gyda gwres gan rai wedi treulio rhan helaeth o'u hoes yn Califfornia neu Awstralia bell, ac ni ched- wir gwyl ein nawddsant gyda mwy o ffyddlondeb yn un gongl o'r Dywysogaeth ei hun nag y gwneir yn rhai o'r gwledydd pellennig i hynny. Angerddola gwladgarwch llaweroedd wedi iddynt ymadael o'i therfynau. Bu yr Unol Dalaethau yn gartref clyd i lawer Cymro o dalent a dylanwad yn y ddwy ganrif ddiweddaf. O ddyddiau William Penn hyd yn awr, ymfudodd llawer yno mewn ymchwil am fesur helaeth- ach o ryddid gwladol a chrefyddol. Cyfrifir y rhai ydynt o waedol- iaeth Gymreig ar hyd a lled y Talaethau heddyw wrth yr ugeiniau o filoedd, a safant mor uchel, os nad yn uwch mewn pob gwir rinwedd, nag un genedl arall yn y wlad. Addefir yn rhwydd gan Americaniaid cyfrifol fod y Cymry wedi gwneud eu rhan yn deilwng mewn gwahanol gysylltiadau i godi y Weriniaeth gyfoethog i'w huchder presennol, a'u bod yn meddu safle anrhydeddus ym mywyd y wlad, Profant eu hunain yn ddinasyddion teyrngarol, a gwasanaethant eu gwlad yn well trwy gadw eu hanianawd cenedlaethol. Yr oedd Cofiant a Phregethau (25) y Parch. David Davies, M.A., D.D Oshkosh, gan y Parch. R. T. Roberts, M.A., D.D. I'w chael gan y Golygydd, yn 74. So., Meade St., Wilkesbarre, Pa., neu gan Ivor H. Davies, 377, Jackson St., Oshkosh, Wis. Pris, un ddoler, a'r cludiad 15 cent.