JOHN MILTON. "Iu Liberty's defence, my noble task." Mae arnaf rhyw awydd olrhain prif gyfeiriadau Milton yn ei weith- iau--ei ganiadau a'i ryddiaeth-at ei ddallineb, gallesid dweyd trychineb ei ddallineb. A rhaid imi ddibynnu ar hynawsedd y golygydd a'r darllennydd am ganiatad i ddyfynnu geiriau y bardd pryd bynnag yr ymddengys hynny oreu. Heblaw fod y cyfeiriadau hyn mor brydferth a theimladol, y maent yn bwysig a dyddorol am y modd yr adlewyrchir ynddynt ysbryd duwiolfrydig, yn gystal a mawredd natur, ac yn arbennig ymroddiad ardderchog Milton yng ngwasanaeth rhyddid. Ymddengys fod Milton yn hollol ddall cyn cyrraedd ei bump a deugain oed. Mae'n dra sicr iddo gyfansoddi y soned On His Blindness" yn y flwyddyn 1653, a'i oedran y flwyddyn honno ydoedd 45. A dyma ei ganig dawel brydferth:- When I consider how my light is spent Ere half my days in this dark world and wide, And that one talent which is death to hide Lodged with me useless, though my soul more bsnt To serve therewith my Maker, and present My true account, lest He returning chide. Doth God exact day-labour, light denied ? I fondly ask. But Patience, to prevent That murmur, soon replies, God doth not need Either man's work or his own gifts. Who best Bear his mild yoke, they serve him best. His state Is kingly thousands at his bidding speed And post o'er land and ocean without rest; They also serve who only stand and wait. Mewn llythyr dyddorol dyddiedig o Westminster, Medi 28ain, 1654, at Philarus, gwr o Athens, a chyfaill i Milton, a'r hwn arosai ar y pryd yn Llundain, fe ddyry'r bardd hanes lled fanwl o'r modd y pallodd ei olwg. Dywed i'r amhariad ddechreu er's oddeutu deng mlynedd yn gyntaf tywyllodd y llygad chwith, ac yna, gan raddol ddylu, ffaelodd y llygad dde hefyd. Credaf y bydd yn dda gan edmygwyr y bardd ddarllen ei ddarluniad o'r tywyllwch y rhae wedi ei gau ynddo, eithr a dorrir gan rhyw wawl neu lygedyn bach megys tywyniad pelydryn gwanaidd trwy'r agen i ystafell dywell. Meddai: But that now as if the sense of lucency were extinct, it is a mere blackness, or a blackness dashed, and as it were inwoven, with an ashy grey, that is wont to pour itself forth. Yet the darkness which is perpetually before me, by night as well as by day, seems always nearer to a whitish than than to a blackish, and such that, when the eye rolls itself there is admitted, as through a small chink, a