Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

John Bright yn edrych i fyny yn syn, dywed y llall wrtho, mewn geiriau angerddol, There are, inthis country, women and children dying of hunger, hungei made by the laws, come with me, and we won't rest unt'û we have repealed those laws." A gwelwn mai'r siaradwr yw Richard Cobden. Ac nid darlun yn unig sydd yma oherwydd fel y gwyddom, ni orffwysodd y ddau nes dymchwelyd y deddfau ŷd, a symud y trethi ar fara. Am wyth mlynedd bu Cobden yn llafurio yn y cyfeiriad hwn, nes cario yr egwyddor o Fasnach Rydd. Fel y canwyd, flynyddoedd yn ol Cobden, y myg ddiwygydd, Arweiniai'r oes, wron rhydd Areithiai i ffwrdd drethi ffol I'w mannau esgymunol Dylanwad ei elynion, A'u rhwysg, a ballai'r awr hon. Gwell i'w gafell, heb gofeb, Ddelw nadd, o ddwylaw neb, Na, ein llwydd a'n cloërau'n llawn Yw ei gofadail gyfiawn. Ac y mae'n serch fel cenedl wedi myned allan at Fasnach Rydd. Wrth yr egwyddor hon yr ydym wedi glynu am dros hanner can mlynedd. Y mae agos a bod yn rhan o gyfansoddiad Prydain Fawr, a pha ryfedd fod eiu brenin, Edward VII., wedi datgan ei ymddiried ynddi ? Ac onid yw wedi talu i ni ? Yn 1850 yr oedd ein exports yn werth ^71,000,000, yn 1860 yr oeddynt yn uerth £136,000,000, yn 1870 yn werth £200,000,000, yn 1880 yn werth £ 223,000,000, yn 1890 yn werth £264,000,000, ac yn 1900 yn werth £283,000,000. Ac y mae ffigyrau 1903 yn uwch o naw neu ddeg miliwn na ffigyrau 1902. Ond y mae rhai pobl yn cwyno am ein bod yn cyfrif y glô ymhlith yr exports. Er hynny, os gadewch y glô allan o'r cyfrif, yr oedd ein exports yn 1902 yn werth £ 232,000,000. A phwy all fesur ein cynnydd mewn gonest- rwydd a phurdeb masnachol ? Pwy ail fesur ein cynnydd mewn cyfeillgarwch â chenedloedd ereill ? Ni all ffigyrau osod allan y pethau hyn ond y mae cyfeillgarwch â chenedloedd ereill yn werth mwy i ni nag aur ac arian. Ac nid yw'r cwbl ond rhan o ffrwyth masnach rydd. Nid rhyfedd ddywedyd o Alfred Marshall, ein prif awdurdod mewn trafnidiaeth, Yr wyf wedi bod yn astudio masnach rydd a diffyniad am ddeg mlynedd ar hugain, i gael allan pa un a fyddai oreu i Brydain Fawr, a fy marn i heddyw ydyw, fod Masnach Rydd yn fwy angenrheidiol i Brydain nag erioed." III. Ar yr un pryd, nid ydym yn hollol wrth ein bodd. Mae cyfnod newydd yn ein gwynebu, cyfnod o gystadleuaeth. Ni welwyd erioed y fath gystadleuaeth a'r hon sydd yn myned ymlaen yn awr rhwng yr Unol Dalaethau, yr Almaen a Phrydain Fawr. Yngwyneb hyn, pa