Y TRAETHODYDD. RHYDDID Y TIR YN YR ETHOLIAD NESAF. ANEROHIAD A DR U)DODWYD 0 FL ^EN CYMDEITHAS RYDDFRYDIG PONTYPRIDD). YR oedd yr etholwyr ddoe yn datgan eu barn o blaid rhyddid mewn addysg. Y mae'r etholwyr heddyw yn datgan eu barn o blaid rhyddid mewn masnach. Bydd yr etholwyr yfory yn penderfynu o blaid rhyddid mewn tir. Un diwrnod, wrth derfynu ei araeth, dywedodd John Bright frawddeg nodedig. Dywedodd ei fod yn gobeithio y delai Prydain, yr hon oedd fam i fwy nag un genedl rydd, ryw ddiwrnod ei hunan yn rhydd. Pa hyd yr aroswn heb y rhyddid hwn ? Er ys llawer blwyddyn, nid ydym wedi symud yr un cam ymlaen nid yw rhyddid yn nodweddu ein pethau mwyaf cyffredin. Nis gallwn honni fod addysg yn rhydd tra mae addysg y plant yn aberth i gului offeiriadol. Nis gallwn ymffrostio fod masnach yn rhydd tra mae perygl gosod trethi drachefn ar nwyddau cyffredin. Ac nid oes neb yn cymeryd arno i ddywedyd fod y tir yn rhydd. Yr ydym, mewn gwirionedd, wedi aros lle y dylem ddechreu. Paham na ddaliwn ymlaen, fel Cymry gwladgarol, i ymdrechu am ddiwygiad yn y tri pheth ? Oblegyd y ma9 un ffurf ar ryddid yn arwain yn naturiol at y llall mae rhyddid addysg'yn arwain i ryddid masnach, a rhyddid masnach yn arwain i ryddid tir. Dyna raglen y Rhydd- frydwyr yn yr etholiad nesaf, RHYDDID ADDYSG, RHYDDID MASNACH A RHYDDID Y TIR. II. Mae'r dyddiau hyn yn llawn o'r hanes am ryddid masnach. Mor syml ac mor darawiadol yw'r hanes am ei ddechreuad. Cymerwch olygfa sydd heddyw'n fyd enwog. Sylwch ar ddyn yn troi'n alarus oddiwrth erchwyn y bedd, 11e y gosodwyd i orffwys un oedd yn berthynas anwyl. Gorchfygir ef gan dristwch wrth droi ei wyneb at y byd dracrefn. Gwelwn mai John Bright ydyw. Ond mae rhywun arall yn dyfod ato, ac yn rhoddi ei law ar ei ysgwydd a thra mae