addysg y bobl, ac felly i ddewis yr athrawou. Cwestiwn tebyg sydd yn ein blino ninnau yn y wlad hon. Pwy sydd i ddewis yr athrawon ? Gwelwn yn Ffrainc ddiwedd yr ymdrech,-y bobl yn mynnu y llywodraeth, ac yn symud gyda chyflymder a llwyrder. Nid dyma y tro cyntaf i ddosbarthiadau breintiedig Prydain Fawr gael rhybudd o Ffrainc. Drwy iddynt ddal i haeru a honni blinir y werin ganddynt cyn bo hir, a gwelir digon o arwyddion bygythiol o hyn eisoes, yn enwedig yng Nghymru. Ond gwir yr hên stori, fod y duwiau yn gwallgofi dynion cyn ei dinistrio. Nid oes gwell cyfrif i'w roi am agwedd afresymol rhai o honom ar gwestiwn addysg. Pe bai arnom eisieu rhybudd ychwanegol, fe'i ceid yn hanes addysg yr Iwerddon. Yno hefyd, fel yn Ffrainc, y mae llywodraeth addysg y wlad wedi bod, yn bennaf, ers blynyddoedd lawer, yn nwylaw clerigwyr. Gwnaed ymdrechion gonest yno i'w ryddhau oddiwrth ddylanwadau eglwysig, ond lluddiwyd y.cwbl gan drais y Protestan- iaid, ar un llaw, ac ystyfnigrwydd y Pabyddion, ar y llaw arall. Os mynnwn wybod beth a ddeuai o roi i'r Pabyddion yn yr Iwerddon yr hyn a geisiant, yn Senedd Prydain Fawr, gallwn ffurfio dirnadaeth go lew wrth ddarllen hanes addysg uwchraddol yn y wlad honno. Cawn gynorthwy hylaw i hyn mewn llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan F. Hugh O'Donnell. M.A., yr hwn sydd Babydd, ac wedi bod yn Aelod Seneddol dros ran o'r Iwerddon,* Ysgrifenna Mr. O'Donnell yn rhwydd a hwyliog, heb ryw lawer o drefn na dosbarth. Teimla yn ddwys oherwydd ymyriad y clerigwyr âg addysg, a phriodola ddiffyg addysg ei gydwladwyr, a'r diffyg dyddordeb yng nghwestiwn addysg, i hynny. Derbyniodd ei addysg ei hun yng ngholeg anenwadol Galway, a rhydd dystiolaeth uchel i degwch yr athrawon tuag at yr holl ysgolheig- ion, pa beth bynnag fyddai eu barn ar gwestiynau crefyddol ac eglwysig. Gyda help y llyfr hwn ceisiwn, yn yr ysgrif hon, roi cipolwg ar gyflwr addysg yn yr Iwerddon, ac yn bennaf yngwyneb y cais a wneir yn awr am gael Prif-ysgol i'r Pabyddion yno. Daw y cwestiwn hwn, yn ddiau, o flaen y Senedd yn fuan eto, a dylem feddu rhyw syniad am yr amgylchiadau cyn y gallwn ffurfio barn gywir ar y cwestiwn ein hunain. Feallai y cawn, hefyd, rai gwersi i ni yng Nghymru yn yr olwg ar effeithiau ymyriad offeiriaid âg ysgolion y bobl yn y Werddon. Cyn myned at gynnwys y llyfr, dichon y byddai yn fuddiol i ni wybod rhywbeth am y Prif-ysgolion sydd eisoes yn y wlad. Yr hynaf yw Coleg y Drindod, Dublin, ac ynglyn âg ef Prif-ysgol Dublin. Llywodraethir y Brif-ysgol gan y Coleg, a'r Coleg gan wyth boneddwr. Y rhai hyn a etholant y Cymrodorion (Fellows), ac a etholant eu hunain. Y mae pob swydd ac elw ynddi, yn agored i bawb yn ddiwahaniaeth, oddieithr swyddi Proffeswr a Darlithiwr mewn Duwinyddiaeth. Megys ym Mhrif-ysgol Llundain, felly yma, ni orfodir yr ysgolheigion i fyw mewn un man neilltuol. O'r holl ysgolheigion ddarfu matriculatio 0 1891 hyd 1895, oddeutu chwech y cant oedd yn Babyddion. Coleg Maynooth a sefydlwyd oddeutu can mlynedd yn ol ar gyfer Pabyddion yn unig. Ers blynyddoedd bellach cyfyngir ef i glerigwyr. The Ruin of Education in Ireland and the Irish Fanar. London Darid Nutt, 57-59, Long Aore. 1903. Third Edition. 6s. nett.