Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hyn nad oedd uwchafiaeth eglwys ac esgob Rhufain yn cael ei lwyr gydnabod yng nghanol y drydedd ganrif. (4). Yr oedd yr achos nesaf sydd yn dyfod dan ein sylw o nodwedd hollol wrthgyferbyniol i'r un a grybwyllwyd ddiweddaf. Yr oedd Marcian, esgob Arles yn Ffrainc, wedi cofleidio egwyddorion Novatian yn eu llymder eithafol. Gwrthodai yn bendant adferu neb oedd wedi syrthio, hyd yn oed yn awr angau, a pha mor edifeiriol bynnag: ac nid hynny yn unig, ond gwrthodai hefyd gyd-gymuno â'r esgobion ereill cylchynol oeddynt yn derbyn y cwympedigion. Teimlai un o'r esgobion hyn,­-Faustinus, esgob Lyons,-fod ymddygiad Marcian yn ormod i'w oddef ac ysgrifennodd at Stephan i ofyn iddo ef ymyrryd yn y mater. Ond ni chymerodd Stephan sylw o'r cais o gwbl. Yna apeliodd Faustinus at Cyprian. Gallwn dybied ei fod yntau ar y cyntaf yn dra araf i gymeryd sylw o'r mater: feallai ei fod yn disgwyl i Stephan ymddeffro. Pa fodd bynnag, bu raid i Faustinus ysgrifennu eilwaith: ac yna anfonodd Cyprian lythyr cryf at Stephan yn ei gymhell yn daer i sicrhau fod T.larcian yn cael ei ddiswyddo a'i esgymuno. Gan nad oes son am Marcian ar ol hyn, y tebyg yw fod llythyr Cyprian at Stephan wedi ateb y diben. R. MORRIS. Dolgellau. PRIF-YSGOL BABAIDD I'R IWERDDON. NID oes nemor i ddim, ers llawer dydd, wedi cynhyrfu cymaint ar Gymru a mesur addysg diweddaf y llywodraeth. Ymleddir yr hen frwydr rhwng hawliau y cyhoedd a hawliau breintwyr megys ag y gwnaed yn y dyddiau gynt, ac fel ag y gwneir yn y dyddiau sydd eto i ddod. Ond nid ym Mhrydain yn unig yr ymleddir hi. Gwelwn lywodraeth Ffrainc, gyda'r Ilwyrder a nodwedda y genedl honno, yn rhuthro ar urddau a chymdeithasau breintiedig mewn dull a ymddengys i ni, yn y wlad bwyllog hon, yn dreisiol a gormesol. Ac ynglyn âg achos addysg y mae yr helynt yno. Y dydd o'r blaen cynygiodd y prif weinidog, M. Combes, fesur yn gwahardd i aelodau cymdeithasau crefyddol anawdurdodedig gymeryd un rhan yng ngwaith addysgol y wlad. Cynygiwyd gwelliant yn gwahardd aelodau cymdeithasau awdurdodedig, yn gystal a'r lîeill, rhag gwneud hynny. Derbyniodd y prif weinidog y gwelliant, a hynny a basiwyd. Y mae yn dra thebyg mai hyn, yn fuan, fydd cyfraith y wlad. Dyma ei ystyr,-gwaherddir aelodau urddau a chymdeithasau mynachaidd, yn feibion ac yn ferched, rhag dysgu neb yn ysgolion y wlad. Bydd hyn yn ddiwedd ar ymdrech y Pabyddion i sicrhau llywodraeth yr holl sefydliadau addysgol i'w dwylaw eu hunan. Yr oeddynt wedi llwyddo braidd yn gwbl. Ond y mae y llywodraeth yn awr yn honni ei hawl ei hun i lywodraethu