Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

symlaf a'r mwyaf pendant a welsom erioed. I ddechreu, danghosir allan o weithiau Darwin fod ei esboniad yn seiliedig ar dybiaethau gau. Mynnir fod datblygiad (evolution) yn ffaith sicr; nad yw Darwiniaeth ond cais i esbonio hyn, ac nad cais gwyddonol ei egwyddor ydyw. Yn ol gwyddoniaeth ddiweddar dylasai ei ymdriniaeth ddilyn rheol rhesymeg o un dosbarth (induction) dewisodd Darwin ddilyn rheol rhesymeg o ddosbarth arall (deduction). Hynny yw: yn lle dilyn ffeithiau, ac ymresymu ymlaen, dewisodd yn hytrach ffurfio tystiolaeth, gan geisio rhestru ffeithiau yn ddarostyngedig i'r dybiaeth honno. Hwn fu bai mawr duwinyddion, a hwn yw bai mawr Darwiniaeth, ac yn arbennig felly, yn gymaint ag mai gwyddoniaeth ddiweddar yr honnir ei dilyn. Ymddengys fod Darwin ei hun, ar y dechreu, yn tybio y posibilrwydd o esbonio Tarddiad Rhywogaethau (Origin of Species) mewn un o ddwy ffordd, ond iddo yn y diwedd ddewis y naill a gwrthod y llall. Yn ol y gyntaf, dibynna yr oll ar amodau felly. Tra byddo un math o fywyd yn ddarostyngedig i'r un amodau, fe barha yr un. Newidier yr amodau, a daw cyfnewidiad yn hanes bywyd. Ac fe newidiai yr amodau trwy gyfnewidiad lIe. Os symudai un rhywogaeth o un lIe i le arall fel ag i gyfnewid amodau bywyd, yna datbiygir lfurfiau newydd o fywyd bron yn afrifed. O'r ffurfiau hyn, rhai yn unig oedd yn meddu digon o nerth i barhau diflannai y gweddill. Gelwir y trefniad hwn yn Ddetholiad Naturiol," a chynwysa Barhad y cymhwysaf i fyw." Eto cofier nad oedd y cymhwysaf yn parhau yn unffurf. Po fwyaf y gwahaniaethent oddi- wrth eu gilydd mewn ffurf, tebycaf yn y byd oeddynt i ddatblygu ffurfiau newydd o fywyd, a'r ffurfiau newydd hyn oedd sylfaen y rhywogaethau. Yn fyrr, dyna oedd rhediad cyffredinol esboniad Darwin. Heb fanylu, sylwer yn unig ar un ffaith nid yw Darwin yn tybio nac yn dweyd fod un ddeddf naturiol yn cyfrif am y datblygiad amrywiaethau hyn mewn bywyd. Mewn geiriau eraill, ni roddir un rheswm na phrawf naturiol tros yr esboniad hwn; ac nis profwyd o gwbl mai detholiad naturiol yw'r moddion sy'n cyfrif am darddiad y rhywogaethau. Er mai dyma brif egwyddor esboniadol Darwin, nis rhaid dweyd mai tybiaeth pur arw yw ar y goreu, ac fod llawer o'r gwyddonwyr blaenaf yn cwbl wadu fod un gwir ynddi, 0 leiaf yn y ffordd hon o'i darllen gan Darwin. Er hynny, ar hwn yn unig y rhoddai Darwin ei hun y pwys. Ni chrybwyllodd y ffordd arall ond i'w gwrthod, er mai y llall a ystyrrir yn awr fel yn cynnwys mwyaf o'r gwir. Yn debyg i hyn y desgrifia Darwin y ffordd arall: Pan ddigwyddo unrhyw nifer o greaduriaid o'r un dosbarth gyfarfod a'r un cyfnewidiad yn amodau bywyd, cymer yr un cwfnewidiad Ie yn ffurf eu bywyd. Yn y modd hwn deuai i fod agwedd newydd ar eu bywyd, a hynny heb angen un dybiaeth am ddetholiad naturiol. Gellir dweyd fod y fath gyfnewidiad yn ddarostyngedig i ddeddf Natur Cywir fyddai ei desgrifio mewn geiriau felly; cyfetyb pob organ i'w hamgylchedd: hi dyf i fyny yn gydnaws â'i hamgylchedd, a bydd ei holl gynnyrch yn rhwym o ddilyn yr un llinellau cynnydd. Bydd wir am y cynnyrch hwn ei fod yn ymdrechu am fywyd, ac mai y cymhwysaf fydd hyn. Eithr sylwer nas cyffwrdd hyn o esboniad a tharddiad y cynnyrch dengys yn unig ei wasgariad. Nis ceir un goleuni ar y cyntaf ymdrinnir yn unig a'r olaf. Mae'r bywyd yn bod cyn ei wisgaru. Pa fodd y daeth i fod, nis atebir gan Darwin o gwbl. Wedi cyffwrdd â'r ddwy ffordd hyn o esbonio tarddiad bywyd, ac wedi cyfeirio at y gwir amlwg nas llwyddir gyda'r esboniad, gellir troi yn awr at y defnydd a