Skip to main content

Y PARCH. JOHN PARRY, CAER. Ei rieni oeddynt Owen a Jane Parry, yn byw mewn lle o'r enw Groeslon-grugan, ym mhlwyf Llandwrog, sir Gaernarfon. Yno y ganwyd ef Mai 7fed, 1775. Gof oedd y tad. Gwasanaethai y fam yng Nglynllifon. Yr oeddynt yn grefyddol a pharchus. Cafodd eu mab addysg ddyddiol fel y cyffredin. Yr ysgol gyntaf iddo oedd ym Mryn- 'rodyn, dan arolygiaeth Richard Jones (un o athrawon ysgolion cylchynol Madame Bevan). Yna bu yn ysgol David Wilson, yn yr un gymydogaeth, ac wedi hynny bu yn ysgol y Parch. Evan Richard- son, Caernarfon. Yna, wrth weled mor anaml oedd ysgolion yn y wlad ar y pryd, meddyliodd am gychwyn ysgol ar ei gyfrifoldeb ei hun. Aeth i Lerpwl i ddysgu morwriaeth (navigation). Bu ei fynediad yno yn fantais ddirfawr iddo dros ei oes. Ar ol hynny cychwynodd ysgol ym Mrynsiencyn, ac hefyd cadwai fath o ysgol nos i rai hyn, a cheid mintai gref o blant ac ieuenctyd yn dyfod ato. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig ym Mryn'rodyn pan yn 17 oed. Tra ym Mrynsiencyn anogwyd ef i ddechreu pregethu, a Rhagfyr 25ain, 1797, yn 23 oed, traddododd ei bregeth gyntaf. Ei destyn oedd Luc ii. 16. Yr oedd henafgwr o'r enw William Dafydd, Llan- llyfni, wedi proffwydo ym mhell cyn hyn fod pedwar o fechgyn ieuainc yn Sir Gaernarfon yr adeg honno a fyddent yn sicr o fyned yn bregethwyr, sef John Elias, Richard Jones, y Wern; Evan Evans, Waenfawr; a John Parry, Bryn'rodyn; ac felly y bu. Chwefror 4ydd, 1800, symudodd John Parry o Frynsiencyn i gadw ysgol i Gaergybi. Oddeutu y cyfnod hwn bu am ysbaid mewn ysgol ym Manchester, ac hefyd ymwelodd â Dublin. Bu yng Nghaergybi am oddeutu pedair blynedd. Awst 15fed, 1804, priododd Miss Catherine Bellis, Caerfallwch, Rhosesmor, ac yng ngwanwyn y flwyddyn 1806 aeth ef a'i briod i fyw i Gaer, pryd y dechreuodd fasnach fel dilledydd. Cyn hir blinodd ar fasnach, ac yn y flwyddyn 1810 dechreuodd fel llyfrwerthydd, a bu yn dra llwyddiannus. Bu farw ei briod Mai 3ydd, 1811, yn 37 oed, gan adael tri o blant bychain ar ol. Priododd drachefn â Miss Maria Langford, ac er mai Saesnes ydoedd llwyddodd i ddysgu Cymraeg, a bu yn goron i'w gwr, ac yn hynod ofalus o'r plant. Bendithiwyd ef â dwy wraig ragorol, a diddadl fod llawer o'r clod yn ddyledus iddynt hwy am yr hyn ydoedd ef, ac am y gwasanaeth a gyflawnodd. Yn y cyfamser, parhäi i bregethu, ac yn 1814 ordeiniwyd ef i gyf- lawn waith y weinidogaeth, gyda phedwar eraill, sef John Jones, Edeyrn; Michael Roberts, Pwllheli; John Jones, Tremadog; a