Nid ydyw gogoniant nac awdurdod y datguddiad yn dibynnu ar gywirdeb yr enw yma na'r dyddiad arall; ond y mae fel anadl bywyd yn cerdded drwyddo o'r dechreu i'r diwedd. Y mae pennodau cyntaf llyfr Genesis yn llawn o ystyr a gwerth, nid am eu bod yn llwyddo i roddi cyfrif gwyddonol cywir am greadigaeth y byd, ond am eu bod yn rhoddi darlun ysbrydoledig o wawr bwriadau tragwyddol Duw yn torri gyntaf ar fynyddoedd amser. Y mae hanes y genedl Iddewig yn werthfawr, serch nad yw amser teyrnasiad y brenin yma na dyddiad y rhyfel arall yn gywir, am ei fod yn darlunio yr un Duw ag a welir yng ngreadigaeth y byd yn camu i lwybrau hanes, yn cerdded i lawr ar hyd-ddynt yn yr un cymeriad grasol, a'i wyneb ar yr un amcan. Cofnod o'r datguddiad hirfaith hwnnw o Dduw a gyrhaeddodd ei bwynt uchaf yn ym- gnawdoliad ac angau Iesu Grist yw y Beibl. Pan y'i darllenir gan ddyn yn yr ysbryd priodol gwel Dduw ynddo mewn cymeriad nas gwel mohono yn ei wisgo yn unman arall. I'r graddau y daw dyn i sylweddoli yn y Beibl y datguddiad neillduol yma sydd ynddo o Dduw, daw i deimlo hefyd fod y datguddiad hwnnw, drwy y Beibl, yn apelio gyda grym neilldttol ato, a daw yn fuan i deimlo fod yma ryw awdurdod gan y datguddiad yma o Dduw yr hoffa ei galon blygu mewn ufudd-dod iddi. Efe a gymerai ei gyfle yn awr a phryd arall siarad yn ddifrifol â ni, a chymhellai ambell un arall hefyd, a ddigwyddai fod yn y cyfleustra, t'n cyfarch. Danghosai feddylgarwch yn ei ffordd o wneud defnydd o ddynion ereill. Ni pherthynai efe i'r urdd honno nad ydyw yn ymddangos eu bod byth yn meddwl am i unrhyw lês ddeilliaw oddiwrth unrhyw lafar ond a ddêl allan o'u corn pori hwy eu hunain. Ymhlíth ereill cawsom gyfle i glywed Owen Thomas A berllefenni. THOMAS CHARLES EDWARDS. ADGOFION. H. W. T. ELLIS.