awdurdod a feddant eisoes sy'n rhoi sail i'r casglu ac yn ei gyfreith- loni. Felly hefyd, yr awdurdod a feddai'r llyfrau eisoes a roddai ystyr i waith yr Eglwys yn eu casglu ynghyd yn un llyfr. 2. Heblaw hynny, nid yr hyn y gellir ei alw'n awdurdod athraw- iaethol" yw'r awdurdod a fedd y Beibl mewn crefydd. Edrychir weithiau ar grefydd fel cyfundrefn o athrawiaethau, a cheisia pleid- wyr y gyfundrefn yma ac arall fenthyca awdurdod gydnabyddedig y Beibl, a'i wneud yn sail dros hawlio derbyniad i'w cyfundrefn arbennig hwy. Cam dirfawr â'r Beibl yw hyn; oblegid, fel y dywed Bruce yn ei lyfr Chief End of Revelation, os ydyw awdurdod y Beibl i'w gyfyngu i'r ychydig adnodau, yma ac acw, y tybir eu bod yn cefnogi y gyfun- drefn yma neu arall o athrawiaethau, rhaid fod rhannau helaeth o Air Duw yn ddiawdurdod hollol. Y duedd ormodol yma i edrych ar y Beibl fe1 llyfr o adnodau i brofi yr athrawiaeth yma neu arall, a roddodd le i Mathew Arnold yn ei Literature and Dogma i geisio profi nad yw'r Beibl wedi ei fwriadu i ddysgu dim am Dduw; ond mai ei amcan yw dangos fod gallu mawr y greadigaeth o blaid purdeb a daioni. 3. Drachefn, nid yw awdurdod y Beibl yn sefyll neu syrthio gyda'r athrawiaeth a elwir yn athrawiaeth "anffaeledigrwydd y Beibl." Yn y cyfnod ar ol y Diwygiad Protestanaidd ymosodwyd ar y Beibl gan y Jesuitiaid ymhlaid y Babaeth, a chan y Sosiniaid ymhlaid Rhesymoliaeth ac i gyfarfod yr ymosodiadau hyn, dechreu- odd y Protestaniaid ddadblygu athrawiaeth anffaeledigrwydd yr Ysgrythyrau. Dechreuwyd dadleu fod y Beibl yn berffaith ymhob ystyr. Nid oedd gair na llythyren o'i lle ynddo. Dadleuent fod ei ramadeg yn gywir, ei hanesiaeth yn gyson, a'i farddoniaeth yn wyddoniaeth ansigledig. Meddylid os na chydnabyddid ei anffaeledig- rwydd ymhob cysylltiad fod ei awdurdod yn cael ei wanhau, a bod sylfaen Protestaniaeth yn siglo. Bu'n rhaid cilio cyn hir o'r safle yna. Dangosodd cynnydd addysg fod ei ramadeg weithiau yn wallus, a bod ei hanesiaeth ar brydiau yn anghyson. Profodd gwyddoniaeth nad yw'n iawn dweyd fod yr haul yn codi ac yn machlud, ac mai nid mewn chwe' diwrnod y gwnaed y byd. Eto, credwn nad oes neb yn ei synwyr heddyw a feddylia fod awdurdod y Beibl arno fel creadur crefyddol wedi darfod am fod y cestyll yna a gododd dynion, yn eu dychryn, i amddiffyn ei awdurdod, wedi eu dymchwel i'r llawr. Gorwedda awdurdod yr Ysgrythyr ar letach a chadarnach sylfaen na'r athrawiaethau hyn. Sail yr awdurdod ydyw'r datguddiad graddol a chynyddol sydd ynddo o Dduw fel Duw gras a chariad. Ynddo rhydd Duw ini yr hanes ardderchog am dano ei hun, er dechreu amser, a chyn ei eni o ran hynny, yn datguddio ei hun mewn cariad a gras er daioni pennaf dynion,