Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y rhai hynny a fyddo'n berffaith onest yn dymuno barnu trostynt eu hunain a yw'r athrawiaethau a ddysgwyd iddynt pan yn blant gan eu heglwys yn gorwedd ar seiliau teg rheswm ac Ysgrythyr. Ysbryd y Babaeth yw hwn, pa un bynnag ai trwy gylchgronau unrhyw gyfundeb ai o gadeiriau ei lysoedd uchaf y sieryd, ac o'i ddilyn yn ormodol arweinia'r cyfundeb mwyaf gwerinol a Phrotestanaidd yn sicr i gors ddiobaith offeiriadaeth ac anffaeledigrwydd ymhonwyr. III. Y Beibl. Credwn ein bod eisoes, wrth drafod diffygion y safonau honedig ereill, wedi dangos i raddau hawl y Beibl i gael ei gydnabod yr awdurdod derfynol mewn crefydd. Os caniateir fod crefydd yn tybio y rhaid i Dduw siarad wrth ddyn yn rhywle, gyda llais clir a digamsyniol ac os yr addefir fod yr adsain o Dduw yn y gydwybod yn rhy egwan i wneud y tro, a bod uchelgais dynion yn yr Eglwys yn cymysgu ei sain aflafar ei hun â llais y dwyfol ynddi, naturiol ydyw credu mai'r ysgrythyr yw'r fan y sieryd Duw ynddo yn groew ac awdurdodol wrthym. Ond wrth gyd. nabod mai yn y Beibl y sieryd y dwyfol gliriaf gyda dyn, nid ydym ond yn cymeryd ein harwain at gnewyllyn yr anhawsder. Y cwestiwn yw, beth yn y Beibl sydd yn ei wneud yn awdurdod mewn crefydd ? Paham y dylem blygu i'r Ysgrythyr, yng nghyntaf oll-mewn gair, pa beth a olygir wrth ddwyfoldeb y Beibl? Fel yr edrychir ar ei ddwyfoldeb, felly y rhaid edrych hefyd ar ei awdurdod. Yn ystad bresennol beirniadaeth Feiblaidd, haws i lawer, yn ddiameu, ydyw dweyd ymha ystyron nad yw y Beibl yn meddu awdurdod na dweyd yn hollol bendant pa beth a olygir wrth ei ddwyfoldeb, neu ymha le y gorwedd ei awdurdod. 1. Yn un peth, gellir dyweyd yn sicr mai nid yn y Beibl fel ìlyfr y gorwedd ei awdurdod. Ofnwn fod llawer o Brotestaniaid, i bob pwrpas, yn tybio fod awdurdod y Beibl yn perthyn iddo fel y mae'n llyfr. Tybia llawer mai gwaith yr Eglwys yn canoni'r llyfrau a roddodd eu hawdurdod iddynt. Tybiant mai am fod yr Epistol at y Rhufeiniaid wedi ei dderbyn i'r Canon, ac Epistol Barnabas wedi ei wrthod, y medd y naill awdurdod na fedd y llall mohoni mewn crefydd. Nid yw hyn ond chware i ddwylaw y Babaeth, oblegid os mai'r gwaith o ganoni'r llyfrau a roddodd eu hawdurdod iddynt, yna, fel y dywed y Pabyddion, dibynna Beibl y Protestant am ei awdurdod ar yr Eglwys y gwrthodir cydnabod ei hawdurdod^ganddo. Pan yn son am awdurdod y Beibl, dylid cofio ei fod yn rhywbeth sy'n gorwedd ymhob rhan ohono o'r cychwyn, cyn eu dwyn at eu gilydd a'u galw yn Feibl. Fel y dywed Fairbairn yn ei lyfr, Christ in Modern Theology (9fed argraffiad, t. 506), nid y gwaith o gasglu (codify) deddfau sy'n rhoi awdurdod iddynt, ond, yn hytrach, yr