oedd Gladstone ei hun yn ymwybodol o hono, neu o leiaf yn barod i'w gydnabod. Mewn llythyr a ysgrifennodd Cobden at Bright ar ol hyn, pan oedd yr olaf yn cyffroi y wlad o blaid Diwygiad Seneddol, dywed, gan gyfeirio at y Cytundeb Masnachol â Ffrainc, at yr hwn y cawn gyfeirio eto Dywedais wrthyoh o'r blaen fod Gladstone wedi dangos fod ei galon yn y mater hwn Mae ganddo wrthwynebiad mawr I wastraffu arian ar ein darpariadau milwrol. Nid oes ynddo ddim teimlad cryf o blaid y dos- barthiadau milwrol. Y mae ynddo, yn wir, fwy o gydymdeimlad a ni. Gresyn, gan hynny, nad allech osgoi anafu ei argyhoeddiadau irwy y fath eiriau a [Nid yw Morley yn dyfynnu y geiriau y mae fel hyn yn tyner geryddu ei gyfaill Bright am eu defnydüo]. Y mae ynddo fwy sydd yn gyffredin i chwi a minnau nag un dyn arall ym Mhrydain o'r un gallu ag ef." Yn y flwyddyn hon talodd Cobden ymweliad â Mr. Gladstone yn Hawarden. Yr oedd ar fedr myned i Ffrainc, a chyda'r ymgysegriad hwnnw i wasanaethu ei wlad ag oedd yn ei hynodi bob amser, awgrym- odd i Gladstone y syniad ag oedd o'r blaen wedi cael ei daflu allan gan Bright ac ereill, mai da fyddai cael Cytundeb Masnachol rhwng Ffrainc a Phrydain, i ostwng trethi ar nwyddau y ddwy wlad, ac os oedd Gladstone o'r un farn ei fod ef yn barod i wneud a allai yn Paris i ddwyn hynny i ben. Llyncodd Gladstone y syniad a dygodd y mater o flaen y Cyfringynghor. Mae yr hanes a rydd Morley o helynt y Cytundeb yno yn ddyddorol dros ben. Nid oedd gan Arglwydd Palmerston ac Arglwydd John Russell ddim i'w ddweyd yn erbyn, ond nid oedd eu calon yn y gwaith, fel yr oedd calonnau Gladstone a Cobden. Yr oedd pwnc arall wedi myned a'u bryd a'u sylw yn llwyr. Yr oedd panic wedi codi yn y wlad hon ar y pryd-un o'r cyffroadau hynny ag y mae y dosbarthiadau milwrol bob amser yn barod i'w codi, -sef bod Ffrainc yn bwriadu gwneud ymosodiad ar Brydain ac ystyriai Gladstone a Cobden y byddai y Cytundeb a gynhygid, nid yn unig yn fantais fawr i fasnach y ddwy wlad, ond yn tueddu hefyd i leddfu y braw diachos a ffol oedd wedi ei ennyn yn y wlad hon, braw ag sydd, pan y cymer feddiant o John Bull, yn ei ysu fel twymyn boeth. Fel hyn, tra yr oedd Cobden, gyda chydsyniad ffurfiol yr awdurdodau Prydeinig, a chyda'r deheurwydd dihafal hwnnw a'i hynodai, yn ceisio dylanwadu ar Louis Napoleon a gwyr dylanwadol Ffrainc, dygwyd cynygiad o flaen y Senedd gan Weinyddiaeth Palmer- ston i wario deuddeng miliwn o bunnau ar amddiffynfeydd milwrol. Pan ddygwyd y peth ger bron y Senedd, ni pheidiodd Palmerston a dat- gan yn ddifloesgni mai Ffrainc yn arbennig oedd gwrthrych y drwgdyb- iaeth. Oni buasai fod calon Cobden yn y gwaith a gymerasai mewn llaw, a bod Gladstone yn y Weinyddiaeth yn cydymdeimlo âg ef ac yn ei gynorthwyo, buasai wedi taflu y cwbl i fyny. Teim!ai i'r byw oherwydd y drwgdybiau hyn ar adeg ag yr oedd efe yn ceisio perswadio Louis Napoleon fod teimladau Prydain tuag at Ffrainc yn rhai heddychol; ac ni pheidiodd a chwyno yn dost wrth Russell a Palmerston yn yr achos. Pa fodd bynnag, wrth lafurio am fisoedd, llwyddodd Cobden yn ei amcan, ac mewn canlyniad galluogwyd Gladstone i ddwyn i mewn, a